Calan Mai: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Cam gywirwyd y darn, yn drychinebus gan newid yr ystyr yn llwyr. Dim o'i le gyda "Roedd", Glen.
B robot yn ychwanegu: gl:Beltane
Llinell 47: Llinell 47:
[[fr:Beltaine]]
[[fr:Beltaine]]
[[gd:Bealltainn]]
[[gd:Bealltainn]]
[[gl:Beltane]]
[[hu:Beltane]]
[[hu:Beltane]]
[[it:Beltane]]
[[it:Beltane]]

Fersiwn yn ôl 02:55, 13 Tachwedd 2009

Y Fedwen Fai neu'r Fedwen Haf
Sawl Bedwen haf yng Ngholeg Bryn Mawr, Pennsylvania

Hen ŵyl ddechrau'r haf ydyw Calan Mai (hefyd a elwir Gŵyl Calan Mai, neu'r hen enw Cymreig o Calan Haf) sef 1 Mai. Roedd yn ŵyl bwysig i'r Celtiaid, a sawl diwylliant arall. Gelwir hi hefyd Bealtaine, neu Cétshamhain mewn Gwyddeleg. Mae'r duw Belenos (Beli Mawr i'r Cymry) yn ymwneud â'r ŵyl bwysig hon. Yng nghalendr y Celtiaid, mae'n gorwedd rhwng Gŵyl y Canhwyllau (1 Chwefror) ac Alban Hefin (21 Mehefin). Roedd dawnsio haf a chodi'r fedwen (neu'r pawl haf) ar un adeg yn ddigwyddiad cyffredin ledled Cymru a gwledydd eraill. Dethlir Diwrnod Rhyngwladol y Gweithwyr ar Galan Mai hefyd.

Yn y Sanas Cormac dywedir fod gan y derwyddon le pwysig iawn i'w chwarae mewn cynnau tân tua'r adeg hon o'r flwyddyn gan yrru gwartheg rhwng y tanau er wmyn eu cadw rhag clefydau.

Gŵyl ffrwythlondeb a thwf oedd hon yn bennaf ac fe'i dethlir hi heddiw drwy'r byd. Arferid cynnau coelcerthi ar Galan Mai hyd at ganol y 19ed ganrif yn ne Cymru.

Yn ôl y Mabinogi arferai Gwyn ap Nudd a Gwythyr fab Greidawl ymryson â'i gilydd am law Creiddylad brydferth pob Calan Mai.

Traddodiadau

  • Ar nos Calan Mai (h.y. y noson cyn y cyntaf o Fai) arferid casglu canghennau o'r ddraenen wen a blodau eraill i addurno'r tu allan i'r tŷ fel symbol o dwf.
  • Ar noson Calan Mai yn Sir Fôn a Sir Gaernarfon arferid chwarae gŵr gwyllt (neu grogi gŵr gwellt). Pe bai dyn yn colli ei gariad i berson arall, arferai wneud fodel bychan ohono gyda gwellt a'i guddio wrth dŷ ei gariad. Rhoddid nodyn bychan wedi ei glymu i'r dyn gwellt i ddo a lwc drwg i'r lleidr calon.
  • Arferid canu carolau Mai, carolau dan y pared neu garolau haf: caneuon eithaf erotig.
  • Yfwyd medd a meddyglyn (medd a pherlysiau) i ddathlu'r ŵyl yn ogystal a gwaseila.

Gweler hefyd:

Ffynonellau:

  • Trefor M. Owen. Welsh Folk Customs. Gwasg Gomer, Llandysul 1987.
  • Duwiau'r Celtiaid gan Gwyn Thomas, Llafar Gwlad 24.