Y Talmwd: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
B →Mishna: dol Tagiau: Golygiad cod 2017 |
B s Tagiau: Golygiad cod 2017 |
||
Llinell 2: | Llinell 2: | ||
== Hanes == |
== Hanes == |
||
Ceir gwreiddiau'r Talmwd yn natblygiad [[y Tora deuol]] a dechreuad traddodiad [[Iddewiaeth rabinaidd]]. Yn ogystal â'r [[Tora]] ysgrifenedig, y pumllyfr a briodolir i [[Moses|Foses]], honnir i'r Tora llafar gael ei drosglwyddo o un genhedlaeth i'r llall ers oes Moses. Tua'r 2g, penderfynai'r rabïaid [[Yohanan ben Zakkai]], [[Hillel]], ac [[Akiva]] i ysgrifennu'r Tora llafar a gelwir y corff o destunau hyn yn y |
Ceir gwreiddiau'r Talmwd yn natblygiad [[y Tora deuol]] a dechreuad traddodiad [[Iddewiaeth rabinaidd]]. Yn ogystal â'r [[Tora]] ysgrifenedig, y pumllyfr a briodolir i [[Moses|Foses]], honnir i'r Tora llafar gael ei drosglwyddo o un genhedlaeth i'r llall ers oes Moses. Tua'r 2g, penderfynai'r rabïaid [[Yohanan ben Zakkai]], [[Hillel]], ac [[Akiva]] i ysgrifennu'r Tora llafar a gelwir y corff o destunau hyn yn y Mishnah. |
||
=== Y Talmwd Palesteinaidd === |
=== Y Talmwd Palesteinaidd === |
||
Ffurfiwyd y Talmwd Palesteinaidd, neu Dalmwd Caersalem (''Yerushalmi''), tua 400 OC pan gyfunwyd y |
Ffurfiwyd y Talmwd Palesteinaidd, neu Dalmwd Caersalem (''Yerushalmi''), tua 400 OC pan gyfunwyd y Mishnah a'r Gemara. |
||
=== Y Talmwd Babilonaidd === |
=== Y Talmwd Babilonaidd === |
||
Llinell 11: | Llinell 11: | ||
== Strwythur == |
== Strwythur == |
||
Datblygodd lunwedd nodweddiadol ar y Talmwd yn yr ail fileniwm OC. Rhoddir teitl y bennod ar frig y dudalen a'r |
Datblygodd lunwedd nodweddiadol ar y Talmwd yn yr ail fileniwm OC. Rhoddir teitl y bennod ar frig y dudalen a'r Mishnah a'r Gemara yng nghanol y dudalen. Ar y chwith mae sylwadau [[Rashi]], y Rabi Shelomo ben Yitzhak o Ffrainc (1040–1105), ac ar y dde mae'r Tosafot, sef atodiadau i esboniadau Rashi. Ar ymylon chwith y dudalen argraffir croesgyfeiriadau at ffynonellau a thestunau cyffelyb, ac yn yr ymylon ar y dde rhestrir cyfeiriadau at gyfreithiau'r Oesoed Canol, er enghraifft [[Maimonides]]. |
||
=== |
=== Mishnah === |
||
{{prif| |
{{prif|Mishnah}} |
||
Rhennir y |
Rhennir y Mishnah yn chwech adran: Zeraim ("hadau"), yn ymwneud â chnydau; Moed ("amserau penodol"), yn ymwneud â gwyliau crefyddol; Nashim ("merched"), yn ymwneud â'r teulu, y gartref a safle'r unigolyn; Nezikin ("iawndal"), y cyfreithiau sifil a throseddol; Kodashim ("pethau sanctaidd"), yn ymwneud â'r Deml ac [[aberth]]; a Tohorot ("purdebau"), yn ymwneud ag halogiad a phuredigaeth. |
||
=== Gemara === |
=== Gemara === |
||
Estyniadau ac esboniadau ar y |
Estyniadau ac esboniadau ar y Mishnah ydy'r Gemara. |
||
===Halakah === |
===Halakah === |
Fersiwn yn ôl 23:46, 4 Hydref 2018
Casgliad awdurdodol o gyfreithiau sifil a chrefyddol yr Iddewon yw'r Talmwd .[1]
Hanes
Ceir gwreiddiau'r Talmwd yn natblygiad y Tora deuol a dechreuad traddodiad Iddewiaeth rabinaidd. Yn ogystal â'r Tora ysgrifenedig, y pumllyfr a briodolir i Foses, honnir i'r Tora llafar gael ei drosglwyddo o un genhedlaeth i'r llall ers oes Moses. Tua'r 2g, penderfynai'r rabïaid Yohanan ben Zakkai, Hillel, ac Akiva i ysgrifennu'r Tora llafar a gelwir y corff o destunau hyn yn y Mishnah.
Y Talmwd Palesteinaidd
Ffurfiwyd y Talmwd Palesteinaidd, neu Dalmwd Caersalem (Yerushalmi), tua 400 OC pan gyfunwyd y Mishnah a'r Gemara.
Y Talmwd Babilonaidd
Datblygwyd y Talmwd Babilonaidd (Bavli) tua 500 OC.
Strwythur
Datblygodd lunwedd nodweddiadol ar y Talmwd yn yr ail fileniwm OC. Rhoddir teitl y bennod ar frig y dudalen a'r Mishnah a'r Gemara yng nghanol y dudalen. Ar y chwith mae sylwadau Rashi, y Rabi Shelomo ben Yitzhak o Ffrainc (1040–1105), ac ar y dde mae'r Tosafot, sef atodiadau i esboniadau Rashi. Ar ymylon chwith y dudalen argraffir croesgyfeiriadau at ffynonellau a thestunau cyffelyb, ac yn yr ymylon ar y dde rhestrir cyfeiriadau at gyfreithiau'r Oesoed Canol, er enghraifft Maimonides.
Mishnah
- Prif: Mishnah
Rhennir y Mishnah yn chwech adran: Zeraim ("hadau"), yn ymwneud â chnydau; Moed ("amserau penodol"), yn ymwneud â gwyliau crefyddol; Nashim ("merched"), yn ymwneud â'r teulu, y gartref a safle'r unigolyn; Nezikin ("iawndal"), y cyfreithiau sifil a throseddol; Kodashim ("pethau sanctaidd"), yn ymwneud â'r Deml ac aberth; a Tohorot ("purdebau"), yn ymwneud ag halogiad a phuredigaeth.
Gemara
Estyniadau ac esboniadau ar y Mishnah ydy'r Gemara.
Halakah
Yr enw ar y traddodiad cyfreithiol yn y Talmwd ydy'r Halakah. Mae'n cynnwys cyfreitheg ddisgrifiadol a chyfarwyddol ynghylch ymddygiad cymdeithasol.
Haggada
Yr enw ar draddodiad traethiadol y Talmwd ydy'r Haggada. Mae'n cynnwys chwedlau, straeon gwerin, ac hanes traddodiadol yr Iddewon.,yn ogystal â llên ddoethineb, dealltwriaeth gynnar o wyddoniaeth, diwinyddiaeth, a moeseg.
Argraffiadau a chyfieithiadau
Argraffwyd y Talmwd Babilonaidd a'r Talmwd Palesteinaidd am y tro cyntaf yn 1520–23 yn Fenis gan Daniel Bomberg. Ceir ugain o draethodau'r Talmwd Palesteinaidd wedi eu cyfieithu i Ladin yn Thesaurus Antiquitatum Sacrarum (1744–69) gan Blasio Ugolino.
Cyfeiriadau
- ↑ Talmwd. Geiriadur Prifysgol Cymru. Adalwyd ar 3 Hydref 2018.