Calan Mai: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
JAnDbot (sgwrs | cyfraniadau) B robot yn ychwanegu: ast, bg, cs, el, eo, es, eu, fi, fr, gd, hu, it, lt, nn, pl, pt yn tynnu: id, ja, vi yn newid: de, en, nl, ru |
Dim crynodeb golygu |
||
Llinell 11: | Llinell 11: | ||
== Traddodiadau == |
== Traddodiadau == |
||
* Ar nos Calan Mai (h.y. y noson cyn y cyntaf o Fai) arferid casglu canghennau o'r [[draenen wen|ddraenen wen]] a blodau eraill i addurno'r tu allan i'r tŷ fel |
* Ar nos Calan Mai (h.y. y noson cyn y cyntaf o Fai) arferid casglu canghennau o'r [[draenen wen|ddraenen wen]] a blodau eraill i addurno'r tu allan i'r tŷ fel symbol o dwf. |
||
* Ar noson Calan Mai yn [[Sir Fôn]] a [[Sir Gaernarfon]] arferid chwarae gŵr gwyllt (neu grogi gŵr gwellt). Pe bai dyn yn colli ei gariad i berson arall, arferai wneud fodel bychan ohono gyda gwellt a'i guddio wrth dŷ ei gariad. Rhoddid nodyn bychan wedi ei glymu i'r dyn gwellt i ddo a lwc drwg i'r lleidr calon. |
* Ar noson Calan Mai yn [[Sir Fôn]] a [[Sir Gaernarfon]] arferid chwarae gŵr gwyllt (neu grogi gŵr gwellt). Pe bai dyn yn colli ei gariad i berson arall, arferai wneud fodel bychan ohono gyda gwellt a'i guddio wrth dŷ ei gariad. Rhoddid nodyn bychan wedi ei glymu i'r dyn gwellt i ddo a lwc drwg i'r lleidr calon. |
||
* Arferid canu carolau Mai, carolau dan y pared neu garolau haf: caneuon eithaf erotig. |
* Arferid canu carolau Mai, carolau dan y pared neu garolau haf: caneuon eithaf erotig. |
Fersiwn yn ôl 16:40, 28 Medi 2009
Hen ŵyl dechrau'r haf ydyw Calan Mai (neu Gŵyl Calan Mai neu'r hen enw yng Nghymru oedd Calan Haf) sef 1 Mai, y cyntaf o Fai. Roedd yn ŵyl bwysig i'r Celtiaid a sawl diwylliant arall. Gelwir hi hefyd Beltane, neu Cétshamhain mewn Gwyddeleg. Mae'r duw Belenos (Beli Mawr i'r Cymry) yn ymwneud â'r ŵyl bwysig hon. Yng nghalendr y Celtiaid, mae'n gorwedd rhwng Gŵyl Fair (1 Chwefror) ac Alban Hefin (21 Mehefin). Yr oedd dawnsio haf a chodi'r fedwen (neu'r pawl haf) ar un adeg yn ddigwyddiad cyffredin ledled Cymru a gwledydd eraill. Dethlir Diwrnod Rhyngwladol y Gweithwyr ar Galan Mai hefyd.
Yn y Sanas Cormac dywedir fod gan y derwyddon le pwysig iawn i'w chwarae mewn cynnau tân tua'r adeg hon o'r flwyddyn gan yrru gwartheg rhwng y tanau er wmyn eu cadw rhag clefydau.
Gŵyl ffrwythlondeb a thwf oedd hon yn bennaf ac fe'i dethlir hi heddiw drwy'r byd. Arferid cynnau coelcerthi ar Galan Mai hyd at ganol y 19ed ganrif yn ne Cymru.
Yn ôl y Mabinogi arferai Gwyn ap Nudd a Gwythyr fab Greidawl ymryson â'i gilydd am law Creiddylad brydferth pob Calan Mai.
Traddodiadau
- Ar nos Calan Mai (h.y. y noson cyn y cyntaf o Fai) arferid casglu canghennau o'r ddraenen wen a blodau eraill i addurno'r tu allan i'r tŷ fel symbol o dwf.
- Ar noson Calan Mai yn Sir Fôn a Sir Gaernarfon arferid chwarae gŵr gwyllt (neu grogi gŵr gwellt). Pe bai dyn yn colli ei gariad i berson arall, arferai wneud fodel bychan ohono gyda gwellt a'i guddio wrth dŷ ei gariad. Rhoddid nodyn bychan wedi ei glymu i'r dyn gwellt i ddo a lwc drwg i'r lleidr calon.
- Arferid canu carolau Mai, carolau dan y pared neu garolau haf: caneuon eithaf erotig.
- Yfwyd medd a meddyglyn (medd a pherlysiau) i ddathlu'r ŵyl yn ogystal a gwaseila.
Gweler hefyd:
Ffynonellau:
- Trefor M. Owen. Welsh Folk Customs. Gwasg Gomer, Llandysul 1987.
- Duwiau'r Celtiaid gan Gwyn Thomas, Llafar Gwlad 24.