Santes Tudful: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
ehangu, delwedd
→‎Cyfeiriadau: cat. (os gwir y chwedl)
Llinell 10: Llinell 10:


[[Categori:Seintiau Cymru]]
[[Categori:Seintiau Cymru]]
[[Categori:Merthyron]]
[[Categori:Teyrnas Brycheiniog]]
[[Categori:Teyrnas Brycheiniog]]



Fersiwn yn ôl 22:03, 18 Mehefin 2009

Afbais Cyngor Merthyr Tudful, gyda'r Santes Tudful

Santes a roddodd ei henw i dref Merthyr Tudful oedd Tudful (bu farw c. 480).

Yn ôl y chwedl, roedd Tudful yn ferch i Brychan Brycheiniog. Dywedir iddi gael ei lladd "gan baganiaid" ger Merthyr Tudful. Fodd bynnag, gall 'merthyr' yn y Gymraeg olygu "eglwys (er cof am sant neu ar ei fedd)"; ceir enwau lleol tebyg eraill yn ne Cymru, e.e. Merthyr Cynog, Merthyr Dyfan a Merthyr Mawr, a cheir merther yn y Gernyweg a merzher yn Llydaweg hefyd, i gyd mewn enwau lleoedd.[1] Gall fod y chwedl am ei lladd wedi datblygu fel ymgais i esbonio'r enw "Merthyr Tudful".

Ei dydd gŵyl yw 23 Awst.

Cyfeiriadau

  1. Geiriadur Prifysgol Cymru, cyfrol III, tud. 2436.