Rheilffordd y TGM: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Thijs!bot (sgwrs | cyfraniadau)
B robot Adding: ja:TGM (鉄道)
Alexbot (sgwrs | cyfraniadau)
B robot yn ychwanegu: zh:TGM
Llinell 30: Llinell 30:
[[fr:TGM]]
[[fr:TGM]]
[[ja:TGM (鉄道)]]
[[ja:TGM (鉄道)]]
[[zh:TGM]]

Fersiwn yn ôl 01:41, 26 Ebrill 2009

Trên yng ngorsaf TGM La Goulette

Rheilffordd y TGM yw'r rheilffordd drydan ysgafn sy'n cysylltu dinas Tunis a La Marsa yn y gogledd. Fe'i henwir ar ôl ei gorsaf ar ben Avenue Habib Bourguiba, sef 'Tunis Gare Marine'; TGM yw enw'r rheilffordd ar lafar. Adeiladawyd y TGM gan y Ffrancod ar ddiwedd y 19eg ganrif a dechrau'r 20fed ganrif. Erbyn heddiw mae'n ddolen hollbwysig yn rhwydwaith cludiant Tunis Fwyaf gyda threnau'n rhedeg yn rheolaidd ddydd a nos (ac eithrio oriau mân y bore yn y gaeaf). Mae'n rheilffordd brysur iawn sy'n cludo miloedd bob dydd. Yn yr oriau brys mae trenau'n rhedeg bob deuddeg munud. Am y rhan fwyaf o'i chwrs mae'r rheilffordd yn rhedeg o fewn chwarter milltir i lan Gwlff Tunis. Ei hyd yw tua 30km ac mae'r siwrnai o'r naill ben i'r llall yn cymryd 45 munud.

Rhed y rheilffordd o'r orsaf TGM, wrth ymyl porthladd Tunis, i La Marsa yn y gogledd. Mae'n croesi Llyn Tunis ar forglawdd ac yna gamlas La Goulette i gyrraedd La Goulette ei hun, sy'n derminws fferi ac ymdrochfa poblogaidd. Rhwng La Goulette a La Marsa mae'n galw yn Carthage a rhan isaf Sidi Bou Saïd.

Gorsafoedd

Gorsaf y TGM yn La Marsa, terminws gogleddol y rheilffordd