Edrych am Jiwlia: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
BDim crynodeb golygu
B Edrych am jiwlia wedi'i symud i Edrych am Jiwlia
(Dim gwahaniaeth)

Fersiwn yn ôl 17:46, 13 Gorffennaf 2006

Grŵp pop Cymraeg o Gaerdydd o 1985 - 1989 oedd Edrych am Jiwlia.

Roedd pedward aelod:

Siôn Jobbins - llais (geiriau) Siôn Lewis - gitar, llais a soddgrwth (cerddoriaeth) Huw Bunford - gitar fas Rhisiart Williams - drymiau

Wedi chwalu'r grwp aeth Sion Lewis a Huw Bunford ymlaen i ffurfio grŵp Y Gwefrau gyda Rebecca Evans a Gwenllian Lewis (chwaer Siôn yn canu)ac Owen Stickler ar y drymiau (a drymiwr grwp Y Crumblowers, grŵp arall o Gaerdydd hefyd).

Bu Siôn Lewis yna'n aelod o grŵp Profiad Rhys Lloyd ddaeth maes o law yn Y Profiad a chyfrannodd i nifer o grwpiau pop Cymraeg eraill e.e. Tynal Tywyll.

Aeth Huw Bunford yn ei flaen i fod yn un o aelodau y Super Furry Animals[1].

Disgograffi Edrych am Jiwlia: Trac Chi yw'r ateb i Bopeth ar sengl aml-gyfrannog rhaglen Bilidowcar, 'Popdri' (1985) Caset 'Gwilym Roberts' (1987) Trac Cydwybod Euog ar caset aml-gyfrannog 'Gwyrdd' Mudiad Ieuenctid Plaid Cymru (1987) Trac Myfyrio ar EP amlgyfrannog 'Pop Positif' (1988) Sengl 'Dau Berson' - Sengl Ankst [2] (1989)


Bu ymddangosiadau ar raglen ieuenctid S4C[3] Stîd a dau fideo ar Fideo 9 - Myfyrio a Dau Berson.