Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "Iaith ddadelfennol"

Jump to navigation Jump to search
Ychwanegwyd 1,018 beit ,  12 o flynyddoedd yn ôl
dim crynodeb golygu
Iaith heb [[ffurfdroadau]] sy'n cyfleu perthnasau gramadegol drwy defnyddio [[geiryn|geirynnau]] neu drwy [[safle geiriau|safle gair]] neu ymadrodd mewn perthynas i eiriau eraill yw '''iaith analytig'''. Mae engreifftiau o ieithoedd analytig yn cynnwys llawer o ieithoed dwyrain a de-ddwyrain [[Asia]], megis y [[Tseineg]] a'r [[Fietnameg]], a llawer o [[ieithoedd Polynesaidd]] megis y [[Hawaiieg]]. Mae'r [[Saesneg]] yn fwy analytig na'r rhan fwyaf o ieithoedd eraill Ewrop. Er na ddosberthir y [[Cymraeg|Gymraeg]] ymysg y ieithoedd analytig, mae'r elfennau analytig ynddi wedi tyfu ers cyfnod y famiaith [[Brythoneg|Frythoneg]], gan i'r Gymraeg golli terfyniadau [[cyflwr gramadegol|cyflyrol]] ar [[enw|enwau]].
 
==Dosbarthu ieithoedd==
[[Delwedd:Graddfa dosbarthiad ieithoedd.png|bawd|360px|Graddfa ieithoedd synthetig ac analytig. Dim ond yr ieithoedd ag 1 mpw sydd yn ynysig.]]
Yn draddodiadol dosberthir ieithoedd fel naill ai analytig neu synthetig. Gwnëir hyn drwy roi mesuraid morffïmmorffîm-y-gair (mpw or [[Saesneg]] ''morpheme-per-word'') ar iaith. Hynny yw, mae ieithoedd analytig yn dueddol o gael un morffïmmorffîm i bob gair. Mae gan ieithoedd analytig 1 mpw ac fellymae unrhyw iaith sydd â mpw yn fwy nag 1 ywyn [[iaith synthetig]].
 
*Yn y gair Cymraeg ''merch'' dim ond un morffîm sydd ac felly mae gan y gair hwn 1:1 mpw.
*Ond mae gan y gair ''gwyddoniaethau'' dri morffîm (''gwyddon-, iaeth, -au'') ac felly mae gan y gair hwn 3:1 mpw.
 
Yn fwy diweddar mae ieithyddion wedi dechrau meddwl am ieithoedd gwahanol ar raddfa lle mae'r ieithoedd mwy analytig ar un ochr a'r ieithoedd mwy synthetig ar yr ochr arall. Oherwydd hyn, mae'n rhesymol i alw ieithoedd gyda mpw sydd yn hafal i un yn ieithoedd ynysig, ac yr ieithoedd i gyd gydag mpw yn fwy nag un yn synthetig. Felly mae ieithoedd fel [[Saesneg]] a [[Norwyeg]] yn [[iaith synthetig|ieithoedd synthetig]] ond ar yr ochr analytig gan fod eu mpw yn weddol o isel (er yn uwch nag un). Mae ieithoedd fel [[Rwsieg]] a [[Lithwaniaidd]] ar yr ochr synthetig gan fod ganddynt mpw uchel iawn.
 
Mae ieithoedd dde-orllewin Asia fel [[Fietnameg]], [[Thaieg]] a [[Tseinaeg|Thseinaeg]] yn dueddol o fod yn ynysig. Yn [[Tseinaeg|Nhseinaeg]] dim ond un morffîm sydd i bob gair ac felly ni ddefnyddir terfyniadau i fynegi [[cyflwr gramadegol|cyflwr]] neu amser, ond yn hytrach mae hi'n dibynnu ar gyd-destun, safle a geirynnau. Er enghraifft yn y frawddeg ganlynol defnyddir geiryn i ddangos y dyfodol, a dibynnir ar drefn y geiriau i ddangos y berthynas rhwng y [[cyflwr gramadegol|goddrych a gwrthrych]]:
 
:{| class="wikitable" style="text-align: center;"
|明天||我||的||朋友||會||爲||我||做||一||個||生日||蛋糕
|-
|明天||我||的||朋友||会||为||我||做||一||个||生日||蛋糕
|-
|míngtīan||wǒ||de||péngyou||huì||wèi||wǒ||zuò||yí||ge||shēngri||dàn'gāo
|-
|yfori|| fi ||(Geiryn israddol)|| cyfaill || bydd ||i|| fi || gwneud ||(erthygl)||(dosbarthydd geiriau)||penblwydd||teisen
|-
| colspan="12" | "Yfori bydd fy nghyfeillion yn gwneud teisen penblwydd imi."
|}
 
Gellir dweud bod dim [[morffoleg]] gan ieithoedd ynysig.
 
==Ieithoedd Analytig==
Yn y rhan fwyaf o gyd-destunau mae'r term ''analytig'' yn gyfwerth â'r term ''ynysig'' felly mae iaith ynysig hefyd yn analytig. Ond nid yw ieithoedd fel Saesneg sydd ar ochr analytig y raddfa yn ynysig gan eu bod yn defnyddio ychydig o forffoleg i ddangos amser ar ferfau ar lluosog ar enwau. Felly mae gan Saesneg mpw sydd yn uwch nag un ac felly'n synthetig. Serch hyn mae Saesneg yn dangos tueddau ynysig yn ei defnydd eang o eirynnau.
 
{{eginyn iaith}}
2,093

golygiad

Llywio