Kaloyan, tsar Bwlgaria: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
SieBot (sgwrs | cyfraniadau)
B robot Ychwanegu: sl:Kalojan
Llinell 13: Llinell 13:
[[nl:Kalojan van Bulgarije]]
[[nl:Kalojan van Bulgarije]]
[[pl:Kałojan]]
[[pl:Kałojan]]
[[ru:Царь Калоян]]
[[ru:Калоян (царь Болгарии)]]
[[sk:Kalojan]]
[[sk:Kalojan]]
[[sl:Kalojan]]
[[sl:Kalojan]]

Fersiwn yn ôl 17:30, 7 Gorffennaf 2008

Tsar Bwlgaria o 1197 hyd 1207 oedd Kaloyan, tsar Bwlgaria. Trydydd teyrn Ail Deyrnas Bwlgaria oedd ef, ar ôl ei frodyr, Ivan Asen I a Pedr II. Daeth â sefydlogrwydd i'r deyrnas, oedd wedi cael ei rhyddhau o reolaeth Bysantaidd ychydig o flynyddoed ynghynt. Arweiniodd gyrchoedd llwyddiannus yn erbyn Byzantium, gan gipio Varna ar ôl gwarchae tridiau ar 24 Mawrth 1201. Gwelir ei bolisi gwrth-Bysantaidd hefyd yn ei berthnasoedd â'r Eglwys Orllewinol. Cyrhaeddodd cennad o'r Pab Innocent III Fwlgaria ym [[1204]. Coronwyd Kaloyan ganddo fel brenin Bwlgaria a Wallachia, ac eneinio Archesgob Vasily o Tarnovo fel pennaeth eglwys y Bwlgariaid a'r Vlachiaid. Cydnabu Kaloyan oruchafiaeth Eglwys Rhufain. Ar ôl i Gaergystennin gael ei meddiannu gan Groesgadwyr y Bedwaredd Groesgad ym 1204, cymerodd Kaloyan reolaeth dros Adrianopolis, dinas Roeg nad oedd wedi cwymo i'r Croesgadwyr. Amddifynnodd Kaloyan y ddinas yn llwyddiannus, gan drechu'r Croesgadwyr mewn brwydr ger y ddinas ar 14 Ebrill 1205. Daliodd y lluoedd Bwlgariadd yr Ymerawdr Baldwin I, a fu farw ar 11 Mehefin mewn dalfa yn Veliko Tarnovo. Enillodd Kaloyan fuddugoliaethau eraill yn erbyn yr Ymerodraeth Ladin, gan gipio Serres a Philippopolis (Plovdiv) a thiriogaeth arall yn Thracia a Macedonia. Llofruddiwyd Kaloyan gan aelodau o'i fyddin ei hun yn ystod gwachae Thessaloniki ym mis Hydref 1207.