Cytundeb Lisbon: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
B robot yn ychwanegu: ko:리스본 조약, tr:Lizbon Anlaşması yn newid: no:Lisboa-traktaten |
FiriBot (sgwrs | cyfraniadau) B robot yn newid: fr:Traité de Lisbonne |
||
Llinell 26: | Llinell 26: | ||
[[et:Lissaboni leping]] |
[[et:Lissaboni leping]] |
||
[[fi:Lissabonin sopimus]] |
[[fi:Lissabonin sopimus]] |
||
[[fr:Traité de Lisbonne |
[[fr:Traité de Lisbonne]] |
||
[[ga:Conradh Liospóin]] |
[[ga:Conradh Liospóin]] |
||
[[gl:Tratado de Lisboa (2007)]] |
[[gl:Tratado de Lisboa (2007)]] |
Fersiwn yn ôl 11:25, 27 Mehefin 2008
Mae Cytundeb Lisbon yn gytundeb Ewropeaidd a gynlluniwyd i ddiwygio'r Undeb Ewropeaidd (UE) yn sgil aflwyddiant y Cyfansoddiad Ewropeaidd. Teitl llawn y ddogfen yw "Cytundeb yn diwygio Cytundeb yr Undeb Ewropeaidd a'r Cytundeb sy'n sefydlu'r Gymuned Ewropeaidd". Cytunir ar destun terfynol y cytundeb mewn uwch-gynhadledd anffurfiol yn Lisbon ar 19 Hydref 2007. Disgwylir y caiff y cytundeb ei lofnodi gan arweinwyr Ewrop ar 13 Rhagfyr 2007, ac wedyn bydd rhaid i bob Aelod-wladwriaeth yr Undeb ei gadarnhau. Mae'n debygol y daw'r cytundeb i rym ar 1 Ionawr 2009, cyn etholiadau Ewropeaidd y flwyddyn honno.
Methodd y Cyfansoddiad arfaethedig â chael ei gadarnhau mewn refferenda yn Ffrainc a'r Iseldiroedd yn 2005. Roedd wedi cael ei gadarnhau gan 15 Aelod-wladwriaeth yr Undeb Ewropeaidd ond, oherwydd y gofyn am unfrydedd wrth ddiwygio fframwaith cyfansoddiadol yr UE, golygodd y pleidleisiau yn Ffrainc a'r Iseldiroedd bod yn rhaid newid y gweithdrefnau er mwyn cyflawni cytundeb newydd. Ym Mehefin 2007, cytunodd y Cyngor Ewropeaidd ar fframwaith ar gyfer cytundeb newydd. Cafodd y testun ei gwblhau yn ystod Cynhadledd Ryng-lywodraethol, a ddechreuodd ar 23 Gorffennaf y flwyddyn honno a daeth i ben ar 19 Hydref.
Cysylltiadau allanol
- (Saesneg) Testun y Cytundeb
- (Saesneg) Cynhadledd Ryng-lywodraethol 2007
- Europedia: Guide to European policies and legislation
Cytundebau, strwythur a hanes yr Undeb Ewropeaidd | ||||||
---|---|---|---|---|---|---|
1951/1952 | 1957/1958 | 1965/1967 | 1992/1993 | 1997/1999 | 2001/2003 | 2007/2009 (?) |
U N D E B E W R O P E A I D D ( U E ) | ||||||
Cymuned Ewropeaidd Glo a Dur (CEGD) | ||||||
Cymuned Economaidd Ewropeaidd (CEE) | Cymuned Ewropeaidd (CE) | |||||
Cymuned Ewropeaidd Ynni Atomig (Euratom) | ||||||
Tair Cymuned Ewropeaidd: CEGD, CEE ac Euratom | Cyfiawnder a Materion Cartref | |||||
Heddlu a Chydweithrediad Cyfreithiol mewn Materion Trosedd | ||||||
Polisi Tramor a Diogelwch Cyffredin (PTDC) | ||||||
Cytundeb Paris | Cytundebau Rhufain | Cytundeb Cyfuno | Cytundeb Maastricht | Cytundeb Amsterdam | Cytundeb Nice | Cytundeb Lisbon |
"Tri philer yr Undeb Ewropeaidd" (y Cymunedau Ewropeaidd, y PTDC, a Heddlu a Chydweithrediad Cyfreithiol) |