Afon Cleddau: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau) cat |
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau) BDim crynodeb golygu |
||
Llinell 11: | Llinell 11: | ||
Mae aber Daugleddau yn ddwfn ac yn harbwr naturiol gwych; gall tanceri olew o 300,000 tunnell a mwy ei ddefnyddio. Oherwydd hyn, adeiladwyd nifer o burfeydd olew yma. |
Mae aber Daugleddau yn ddwfn ac yn harbwr naturiol gwych; gall tanceri olew o 300,000 tunnell a mwy ei ddefnyddio. Oherwydd hyn, adeiladwyd nifer o burfeydd olew yma. |
||
[[Categori:Afonydd Sir Benfro]] |
[[Categori:Afonydd Sir Benfro|Cleddau]] |
||
[[en:River Cleddau]] |
[[en:River Cleddau]] |
Fersiwn yn ôl 05:35, 22 Mai 2008
Afon yn ne Sir Benfro yw Afon Cleddau. Mae dwy afon Cleddau: Afon Cleddau Wen yn y gorllewin ac afon Cleddau Ddu yn y dwyrain. Ynumnant a'i gilydd i ffurfio aber Daugleddau, sy'n rhoi ei enw i borthladd pwysig Aberdaugleddau.
Cleddau Wen
Ceir dwy ran i afon Cleddau Wen. Tardda'r rhan ddwyreiniol yn Llygad Cleddau ym mhlwyf Llanfair Nant y Gôf, 4 km i'r de-ddwyrain o Abergwaun. Llifa tua'r de-orllewin heibio Scleddau. Tardda'r gangen orllewinol ym Mhenysgwarne ym mhlwyf Llanreithan, a llifa tua'r dwyrain i ymuno a'r gangen arall. Llifa'r Cleddau Wen trwy Gas-blaidd i Hwlffordd, lle ceir effaith y llanw.
Cleddau Ddu
Tardda afon Cleddau Ddu ar lethrau Mynydd Preselau ym Mlaencleddau ym mhlwyf Mynachlog-ddu, a llifa tua'r de-orllewin heibio Llawhaden. Gwelir effaith o llanw ger Pont Canaston. Ymuna a'r afon Cleddau Wen ym Mhwynt Picton.
Mae aber Daugleddau yn ddwfn ac yn harbwr naturiol gwych; gall tanceri olew o 300,000 tunnell a mwy ei ddefnyddio. Oherwydd hyn, adeiladwyd nifer o burfeydd olew yma.