Dodecanese: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Dim crynodeb golygu
Dim crynodeb golygu
Llinell 28: Llinell 28:
[[Categori:Dodecanese|Dodecanese]]
[[Categori:Dodecanese|Dodecanese]]
[[Categori:Ynysoedd Gwlad Groeg]]
[[Categori:Ynysoedd Gwlad Groeg]]
[[Categori:Daearyddiaeth Gwlad Groeg]]

Fersiwn yn ôl 15:48, 27 Awst 2017

Y Dodecanese

Grŵp o ynysoedd yn nwyrain Gwlad Groeg yw'r Dodecanese (Groeg: Δωδεκάνησα) neu Y Deuddeng Ynys.[1] Ystyr yr enw Groeg yw "Y Deuddeg Ynys" ond mae'n enw camarweiniol braidd. Ceir 15 prif ynys yn y grŵp heddiw a cheir trigfannau ar ambell ynys lai yn ogystal. Yn ddiwylliannol ac yn wleidyddol maent yn perthyn i Wlad Groeg ond yn ddaearyddol mae nhw'n perthyn i Asia Leiaf am eu bod yn gorwedd yn agos iawn i'w harfordir de-orllewinol. Mae'r enw 'Dodecanese' yn deillio o 1908 pan unodd deuddeg ynys mewn protest yn erbyn colli eu breintiau traddodiadol dan lywodraeth yr Otomaniaid, a roddwyd iddynt yn y 16g gan Suleiman y Mawreddog. Ystyrir ynys Rhodes, nad oedd yn un o'r deuddeg ynys gwreiddiol, fel y pennaf o'r Dodecanese heddiw gyda dinas Rhodes yn brifddinas y grŵp. Twristiaeth sy'n dominyddu'r economi lleol erbyn heddiw.

Y prif ynysoedd

Tref Pigadia ar ynys Karpathos

Cyfeiriadau

  1. Geiriadur yr Academi, Dodecanese > Y Deuddeng Ynys.
Eginyn erthygl sydd uchod am Wlad Groeg. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato