Girona: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
SieBot (sgwrs | cyfraniadau)
B robot Ychwanegu: ko:지로나
VolkovBot (sgwrs | cyfraniadau)
B robot Newid: fa:خرنا
Llinell 23: Llinell 23:
[[et:Girona]]
[[et:Girona]]
[[eu:Girona]]
[[eu:Girona]]
[[fa:خرونا]]
[[fa:خرنا]]
[[fi:Girona]]
[[fi:Girona]]
[[fr:Gérone]]
[[fr:Gérone]]

Fersiwn yn ôl 08:05, 1 Mai 2008

Arfau Girona.

Girona yw prifddinas Talaith Girona, un o bedair talaith Catalonia. Saif y ddinas yng ngogledd-ddwyrain Catalonia, lle mae Afon Ter ac Afon Onyar yn cyfarfod. Roedd y boblogaeth yn 2005 yn 86,672.

Mae'r ddinas yn dyddio o'r cyfnod Rhufeinig, pan oedd sefydliad o'r enw Gerunda yno. Cafodd ei chyhoeddi'n ddinas gan Alfonso I, brenin Aragón yn yr 11eg ganrif. Yn y 12fed ganrif datblygodd cymuned Iddewig gref yma, a daeth yn ganolfan dysg Iddewig dan Rabbi Girona, Moshe ben Nahman Gerondi (mwy adnabyddus fel Nahmanides). Mae'r ghetto Iddewig yma yn awr yn atyniad i dwristiaid. Gwarchaewyd ar y ddinas 25 o weithiau, a chipiwyd hi 7 gwaith.

Mae yno brifysgol, ac mae'r maes awyr wedi tyfu yn sylweddol yn y blynyddoedd diwethaf, yn bennaf oherwydd bod Ryanair yn ei ddefnyddio. Mae'r maes awyr yn aml yn cael ei hysbysebu fel "Barcelona"; mae dinas Barcelona rhyw awr i ffwrdd ar y bws.

Girona.