Matthew de Englefield: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Tudalen newydd: Esgob Bangor ganol y 14eg ganrif oedd '''Matthew de Englefield''' (tua 1290 - 1350). Mae'n bosibl fod 'Mathew Englefield' i'w uniaethu â '''Madog ab Iorwerth ap Rhir...
 
BDim crynodeb golygu
Llinell 1: Llinell 1:
[[Esgob Bangor]] ganol y [[14eg ganrif]] oedd '''Matthew de Englefield''' (tua [[1290]] - [[1350]]). Mae'n bosibl fod 'Mathew Englefield' i'w uniaethu â '''Madog ab Iorwerth ap Rhirid''' o [[Tegeingl|Degeingl]].
[[Esgob Bangor]] ganol y [[14eg ganrif]] oedd '''Matthew de Englefield''' (tua [[1290]] - [[1357]]). Mae'n bosibl fod 'Mathew Englefield' i'w uniaethu â '''Madog ab Iorwerth ap Rhirid''' o [[Tegeingl|Degeingl]].

Os cywir yr uniaethiad hwnnw, sy'n dra thebygol, yr oedd yn frawd i'r uchelwr Rhotbert ab Iorwerth o Degeingl ac yn perthyn i deulu a olreiniai ei dras yn ôl i Ednywain Bendaw II, o linach brenhinoedd [[Teyrnas Powys]].

Cafodd Matthew/Madog ei gysegru'n Esgob Bangor ar [[12 Mehefin]] [[1328]]. Ni chofnodir ei ymddeoliad na'i farwolaeth, ond cafodd ei olynu yn [[1357]] gan [[Thomas Ringstede]].
Cafodd Matthew/Madog ei ethol yn Esgob Bangor ar [[25 Chwefror]] [[1327]] a'i gysegru ar [[12 Mehefin]] [[1328]]. Ni chofnodir ei ymddeoliad na'i farwolaeth, ond cafodd ei olynu yn [[1357]] gan [[Thomas Ringstede]].

Mae un o dwy gerdd o waith sydd wedi goroesi o waith y bardd [[Gronw Gyriog]] yn [[awdl]] foliant i un Madog ab Iorwerth o Goedmynydd. Mae'n debygol mai Matthew de Englefield/Madog ab Iorwerth yw'r Madog hwn, ac os felly gellid cynnig ei dyddio i'r blynyddoedd ar ôl 1328. Mae'n debygol hefyd iddi gael ei chanu gan y bardd yn llys yr esgob ym [[Bangor|Mangor]]. Molir Madog am ei haelioni eithriadol yn y gerdd, ac er bod hynny yn nodwedd gyffredin yn y canu mawl fe all fod yn wir yn achos Madog. Cwyna ei olynydd Thomas Ringsted fod Madog wedi esgeuluso adeiladau'r eglwys gan gyfeirio at "''waste and dilapidations''". Efallai mai cyfeirio at fywyd moethus yr esgob yn ei lys yn cadw bwrdd agored a gwahodd beirdd sydd yma.

Fersiwn yn ôl 19:28, 6 Chwefror 2008

Esgob Bangor ganol y 14eg ganrif oedd Matthew de Englefield (tua 1290 - 1357). Mae'n bosibl fod 'Mathew Englefield' i'w uniaethu â Madog ab Iorwerth ap Rhirid o Degeingl.

Os cywir yr uniaethiad hwnnw, sy'n dra thebygol, yr oedd yn frawd i'r uchelwr Rhotbert ab Iorwerth o Degeingl ac yn perthyn i deulu a olreiniai ei dras yn ôl i Ednywain Bendaw II, o linach brenhinoedd Teyrnas Powys.

Cafodd Matthew/Madog ei ethol yn Esgob Bangor ar 25 Chwefror 1327 a'i gysegru ar 12 Mehefin 1328. Ni chofnodir ei ymddeoliad na'i farwolaeth, ond cafodd ei olynu yn 1357 gan Thomas Ringstede.

Mae un o dwy gerdd o waith sydd wedi goroesi o waith y bardd Gronw Gyriog yn awdl foliant i un Madog ab Iorwerth o Goedmynydd. Mae'n debygol mai Matthew de Englefield/Madog ab Iorwerth yw'r Madog hwn, ac os felly gellid cynnig ei dyddio i'r blynyddoedd ar ôl 1328. Mae'n debygol hefyd iddi gael ei chanu gan y bardd yn llys yr esgob ym Mangor. Molir Madog am ei haelioni eithriadol yn y gerdd, ac er bod hynny yn nodwedd gyffredin yn y canu mawl fe all fod yn wir yn achos Madog. Cwyna ei olynydd Thomas Ringsted fod Madog wedi esgeuluso adeiladau'r eglwys gan gyfeirio at "waste and dilapidations". Efallai mai cyfeirio at fywyd moethus yr esgob yn ei lys yn cadw bwrdd agored a gwahodd beirdd sydd yma.

Cyfeiriadau

W. Dyfed Rowlands ac Ann Parry Owen (gol.), 'Gwaith Gronw Gyriog', yn Gwaith Gronw Gyriog, Iorwerth ab y Cyriog ac eraill (Aberystwyth, 1997)