Canwyll y Cymry: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau) BDim crynodeb golygu |
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau) cat |
||
Llinell 17: | Llinell 17: | ||
==Cysylltiad allanol== |
==Cysylltiad allanol== |
||
*[http://cy.wikisource.org/wiki/Cannwyll_y_Cymry ''Cannwyll y Cymry'' Wicitestun] |
*[http://cy.wikisource.org/wiki/Cannwyll_y_Cymry ''Cannwyll y Cymry'' Wicitestun] |
||
[[Categori:Cristnogaeth yng Nghymru]] |
|||
[[Categori:Llyfrau 1672]] |
|||
[[Categori:Llyfrau 1681]] |
Fersiwn yn ôl 08:49, 9 Ionawr 2008
Llyfr o waith Rhys Prichard (Y Ficer Prichard) yw Canwyll y Cymry. Gyda'r Beibl a Taith y Pererin, roedd am gyfnod hir yn un o'r tri llyfr oedd i'w cael yn ymron bob cartref Cymreig lle ceid llyfrau o gwbl.
Ysgrifennodd y Ficer Prichard (1579? - 1644), ficer Llanymddyfri, lawer o gerddi ar gyfer y werin yn argymell bywyd bucheddol. Ni chyhoeddwyd hwy tan 1659, pan gyhoeddodd Stephen Hughes y rhan gyntaf. Tua dechrau 1660 cyhoeddodd yr ail ran; a rhan arall yn 1670. Yn 1672 cyhoeddodd Stephen Hughes bedair rhan o waith y Ficer yn un gyfrol, ond hyd yma nid oedd wedi cael y teitl "Canwyll y Cymru". Cafodd y teitl yma yn 1681, pan gyhoeddodd Stephen Hughes argraffiad newydd gan roi iddo'r teitl Canwyll y Cymru: Sef, Gwaith Mr. Rees Prichard, gynt Ficcer Llanddyfri, A brintiwyd or blaen yn bedair rhan wedi ei cyssylltu yn un Llyfr.
Mae'r farddoniaeth wedi ei hanelu at y wserin yn hytach na dysgedigion, ac yn annog byw bywyd Cristionogol yn wyneb sicrwydd angau:
- Ni cheir gweled mwy on hôl
- nag ôl neidr ar y ddôl,
- neu ôl llong aeth dros y tonnau,
- neu ôl saeth mewn awyr denau.
Llyfryddiaeth
- D. Gwenallt. Jones Y Ficer Prichard a "Canwyll y Cymry" (Cwmni'r "Llan" a Gwasg yr Eglwys yng Nghymru, [1946])
- Siwan Non Richards Y Ficer Prichard (Cyfres Llên y llenor; Caernarfon : Gwasg Pantycelyn, 1994) ISBN 1874786321