William Abraham (Mabon): Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau) llyfr |
BDim crynodeb golygu |
||
Llinell 1: | Llinell 1: | ||
:''Gweler hefyd [[Mabon]].'' |
|||
Llywydd cyntaf [[Ffederasiwn Glowyr De Cymru]] ac [[Aelod Seneddol]] oedd '''William Abraham (Mabon)''' ([[14 Mehefin]] [[1842]] - [[14 Mai]] [[1922]]). |
Llywydd cyntaf [[Ffederasiwn Glowyr De Cymru]] ac [[Aelod Seneddol]] oedd '''William Abraham (Mabon)''' ([[14 Mehefin]] [[1842]] - [[14 Mai]] [[1922]]). |
||
Fersiwn yn ôl 20:46, 8 Tachwedd 2007
- Gweler hefyd Mabon.
Llywydd cyntaf Ffederasiwn Glowyr De Cymru ac Aelod Seneddol oedd William Abraham (Mabon) (14 Mehefin 1842 - 14 Mai 1922).
Ganed ef yng Nghwmafon, yn fab i Thomas a Mary Abraham. Addysgwyd ef yn Ysgol Genedlaethol Cwmafon, gan adael yn ddeg oed, ac yna bu'n gweithio mewn gwaith alcam ac fel glowr. Yn y 1860au bu am gyfnod yn Chile yn gweithio yn y gweithfeydd copr yno. Wedi iddo ddychwelyd i Gymru, etholwyd ef yn gynrychiolydd y glowyr yn 1870, a bu'n llywydd y glowyr ar y Joint Sliding Scale Association o 1875 hyd 1903. Rhwng 1892 a 1898 byddai'r glowyr yn cael dirnod o wyliau o'r gwaith ar y dydd Llun cyntaf o bob mis, a gelwid y diwrnod yma yn "Ddiwrnod Mabon."
Daeth yn aelod seneddol dros y Rhondda yn 1885, a bu'n cynrychioli Gorllewin Rhondda o 1918 hyd 1922. Ar y cyntaf, roedd yn aelod o'r Blaid Ryddfrydol, yna'n ddiweddarach yn aelod o'r Blaid Lafur pan ddaeth y blaid honno'n sefydliad annibynnol. Sefydlwyd Ffederasiwn Glowyr De Cymru yn 1898, gyda Mabon yn llywydd.
Roedd hefyd yn gefnogwr cryf i'r Eisteddfod, a daeth ei enw barddol "Mabon" yn gysylltiedig a'i enw.
Llyfryddiaeth
- Evans, Eric Wyn, Mabon (William Abraham, 1842-1922): a study in trade union leadership (Caerdydd, 1959).