Candelas: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Dim crynodeb golygu |
Dim crynodeb golygu |

Llinell 15: | Llinell 15: | ||
| dylanwadau = |
| dylanwadau = |

| URL = |
| URL = |

| aelodaupresennol = Osian Williams

| aelodaupresennol = Osian Williams
Ifan Jones

Ifan Jones

Gruffydd Edwards

Gruffydd Edwards

Tomos Edwards

Tomos Edwards

Fersiwn yn ôl 19:49, 26 Chwefror 2017
Candelas |

Mae Candelas yn fand Cymreig o Lanuwchllyn, Gwynedd, sy'n chwarae cerddoriaeth roc. Sefydlwyd y band yn 2009 a rhyddhawyd eu record fer gyntaf yn 2011 dan yr enw Kim Y Syniad.[1][2] Roedd y gerddoriaeth ar y record hon wedi ei ysbrydoli gan fandiau fel The Strokes a Kings of Leon ond roedd eu hail record (eu halbwm cyntaf a enwyd ar ôl y band) yn cynnwys cerddoriaeth galetach wedi ei hysbrydoli gan fandiau fel Arctic Monkeys, Queens of the Stone Age a Band of Skulls.
Ers 2013, maent yn ymddangos fel rhan o gynllun BBC Cymru a Chyngor Celfyddydau Cymru sy'n datblygu cerddoriaeth fandiau newydd ac annibynnol yng Nghymru.[3]
Ennillodd y band 3 gwobr yng Ngwobrau'r Selar am y Gân Orau, Record Hir Orau a'r Band Gorau. Adlewyrchodd hyn lwyddiant y band yn 2013 a'n sicr, roedd yn hwb i ddyfodol y grŵp. Rhyddhawyd eu hail albwm ar yr 8fed o Ragfyr, 2014, o dan yr enw 'Bodoli'n Ddistaw'.
Aelodau
- Osian Williams (Llais a Gitâr)
- Ifan Jones (Gitâr a Llais Cefndir)
- Gruffydd Edwards (Gitâr a Llais Cefndir)
- Tomos Edwards (Gitâr Fas)
- Lewis Williams (Drymiau)
Disgograffi
- Kim Y Syniad (Medi 2011)
- Candelas (Awst 2013)
- Bodoli'n Ddistaw (Rhagfyr 2014) I Ka Ching
Cyfeiriadau
- ↑ Gwefan Cerddoriaeth Gymraeg; adalwyd 11 Awst 2014.
- ↑ Gwefan iTunes; adalwyd 11 Awst 2014
- ↑ Gwefan y BBC; adalwyd 11 Awst 2014.