Speculum duorum: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Tudalen newydd: 180px|bawd|Geralt Gymro Mae'r '''''Speculum duorum''''' (Lladin: "Drych deuddyn") yn llythyr hir athronyddol yn yr iaith Ladin a ysg...
(Dim gwahaniaeth)

Fersiwn yn ôl 19:01, 15 Medi 2007

Geralt Gymro

Mae'r Speculum duorum (Lladin: "Drych deuddyn") yn llythyr hir athronyddol yn yr iaith Ladin a ysgrifennwyd gan Gerallt Gymro ac a adawyd yn anorffenedig yn y flwyddyn 1216.

Mae'r Speculum yn waith anorffenedig sydd ymhlith y mwyaf personol a dadlennol o weithiau'r awdur toreithiog. Ysgrifennodd Gerallt y gwaith yn hwyr yn ei oes. Mae'n llawn o gywiriadau a lacunae sy'n dangos ei fod yn bwriadu ehangu a chywiro'r gwaith cyn ei gyhoeddi, ond ymddengys na chafodd y cyfle i wneud hynny.

Llythyr mewn ymateb i honiadau personol ac enllibus braidd yn ei erbyn gan ei nai Hubert Walter. Cafodd Hubert ei ddyrchafu i archddeaconiaeth Aberhonddu yn 1203, diolch yn bennaf i ymyrraeth a dylanwad ei ewythr, Gerallt.

Dechreau Gerallt trwy amddiffyn ei hun rhag y cyhuddiadau yn ei erbyn gan roi nifer o fanylion am hanes esgobaeth Tyddewi yn y broses. Yna mae'r llythyr yn ehangu ac yn troi'n draethawd amlochrog ar natur dyn sy'n cynnwys nifer o ddyfyniadau o'r Ysgrythurau, Tadau'r Eglwys a sawl awdur arall, o'r Oesoedd Canol a'r Henfyd. Ond yn fwy diddorol o safbwynt hanes Cymru yw'r cyfeiriadau a disgrifiadau niferus sy'n ymwneud â Chymru oes Gerallt, e.e. disgrifiad manwl o wisg Cymry'r cyfnod.

Yn fwy felly na mewn unrhyw un o'i lyfrau, cawn cipolwg ar y dyn ei hun sy'n datgelu personoliaeth gymhleth a meddwl bywiog dyn oedd yn meddu ar ddysg eang a dwfn.

Llyfryddiaeth

  • Giraldus Cambrensis: Yves Lefèvre a R. B. C. Huygens (gol.), Speculum duorum or a Mirror of two men, cyfieithiwyd gan Brian Dawson (Gwasg Prifysgol Cymru, Caerdydd, 1974). Y testun Lladin gyda chyfieithiad Saesneg cyfochrog.