Sarn Badrig: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau) cat |
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau) B +en |
||
Llinell 9: | Llinell 9: | ||
[[Categori:Mytholeg Gymreig]] |
[[Categori:Mytholeg Gymreig]] |
||
[[Categori:Llên gwerin Cymru]] |
[[Categori:Llên gwerin Cymru]] |
||
[[en:Sarn Badrig]] |
Fersiwn yn ôl 18:08, 31 Awst 2007
Sarn dan y môr ym Mae Ceredigion yw Sarn Badrig. Mae'n ymestyn tua'r gorllewin o'r arfordir ger Mochras, gerllaw Llanbedr am tua 21 milltir. Dim ond ar lanw isel iawn y gellir gweld y sarn, ond gan ei bod yn weddol agos at yr wyneb, mae'n medru bod yn beryglus i gychod. Credir i'r sarn gael ei chreu gan rewlif yn ystod Oes yr Ia. Ceir amrywiaeth ddiddorol o wymon y môr ar y sarn, ac o'r herwydd mae'n Ardal Gadwraeth Arbennig.
Mewn chwedl, Sarn Badrig yw gweddillion y mur oedd yn gwarchod Cantre'r Gwaelod rhag y môr. Awgryma'r enw gysylltiad a Sant Padrig; y syniad mae'n debyg oedd ei bod yn sarn a ddefnyddiai ef i gerdded i Iwerddon.