Symffoni: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Addbot (sgwrs | cyfraniadau) B Bot: Migrating 76 interwiki links, now provided by Wikidata on d:q9734 (translate me) |
Dim crynodeb golygu |
||
Llinell 1: | Llinell 1: | ||
Darn [[cerddoriaeth glasurol]] Gorllewinol, mewn pedwar symudiad neu ran fel rheol, yw '''symffoni'''. Datblygodd y symffoni [[clasur|glasurol]] o ganol y [[18fed ganrif]] ymlaen yn nwylo [[cyfansoddwr|cyfansoddwyr]] fel [[Joseph Haydn]] a [[Mozart]]. Roedd y symudiad cyntaf yn gyflym ac ar ffurf [[sonata]], yr ail yn araf a mynegol, y trydydd yn ''[[minuet]]'' a ''[[trio]]'', a'r pedwerydd yn gyflym. |

Ymestynodd [[Beethoven]] ystod emosiynol a thechnegol y symffoni gan ychwanegu [[corws]] a chantorion unigol yn ei Nawfed Symffoni. Gyda'r [[Rhamantiaeth|Mudiad Rhamantaidd]] yn y [[19eg ganrif]] a chyfansoddwyr fel [[Schubert]], [[Schumann]], [[Johannes Brahms]], [[Mendelssohn]], [[ |
Ymestynodd [[Beethoven]] ystod emosiynol a thechnegol y symffoni gan ychwanegu [[corws]] a chantorion unigol yn ei Nawfed Symffoni. Gyda'r [[Rhamantiaeth|Mudiad Rhamantaidd]] yn y [[19eg ganrif]] a chyfansoddwyr fel [[Schubert]], [[Schumann]], [[Johannes Brahms]], [[Mendelssohn]], [[Dvořák]] a [[Tchaikovsky]], tyfodd y symffoni i fod yn un o ffurfiau blaenaf a mwyaf poblogaidd y traddodiad Clasurol. |
||
Ar ddiwedd y ganrif honno a dechrau'r [[20fed ganrif|ugeinfed]], daeth cyfansoddwyr fel [[Anton Bruckner]] a [[Gustav Mahler]] â datblygiadau newydd ym maint a chynnwys y symffoni. Arbrofai Mahler yn arbennig gyda symffonïau marweddog, thematig, i'w perfformio gan [[cerddorfa|gerddorfeydd]] mawr; mil o leisiau yn achos ei 8fed Symffoni, er enghraifft. |

Fersiwn yn ôl 09:31, 17 Hydref 2016
Darn cerddoriaeth glasurol Gorllewinol, mewn pedwar symudiad neu ran fel rheol, yw symffoni. Datblygodd y symffoni glasurol o ganol y 18fed ganrif ymlaen yn nwylo cyfansoddwyr fel Joseph Haydn a Mozart. Roedd y symudiad cyntaf yn gyflym ac ar ffurf sonata, yr ail yn araf a mynegol, y trydydd yn minuet a trio, a'r pedwerydd yn gyflym.
Ymestynodd Beethoven ystod emosiynol a thechnegol y symffoni gan ychwanegu corws a chantorion unigol yn ei Nawfed Symffoni. Gyda'r Mudiad Rhamantaidd yn y 19eg ganrif a chyfansoddwyr fel Schubert, Schumann, Johannes Brahms, Mendelssohn, Dvořák a Tchaikovsky, tyfodd y symffoni i fod yn un o ffurfiau blaenaf a mwyaf poblogaidd y traddodiad Clasurol.
Ar ddiwedd y ganrif honno a dechrau'r ugeinfed, daeth cyfansoddwyr fel Anton Bruckner a Gustav Mahler â datblygiadau newydd ym maint a chynnwys y symffoni. Arbrofai Mahler yn arbennig gyda symffonïau marweddog, thematig, i'w perfformio gan gerddorfeydd mawr; mil o leisiau yn achos ei 8fed Symffoni, er enghraifft.
Ond gyda chyfansoddwyr fel Sibelius troes y symffoni'n fwy cryno, mwy pur yn ei helfennau a llai cyfyng ei strwythr: symffoni un symudiad yw 7fed Symffoni Sibelius er enghraifft.
Yn ail hanner yr 20fed ganrif cafwyd amrywiaeth mawr ym myd y symffoni, o gerddoriaeth dra-fodern Dmitri Shostakovich i arddulliau arbrofol, minimalaidd y to newydd.