Odl: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
B →Gweler hefyd: remove redundant template, link FA now managed from Wikidata, removed: {{Cyswllt erthygl ddethol|he}} using AWB |
Pwyll (sgwrs | cyfraniadau) engraifft --> enghraifft |
||
Llinell 1: | Llinell 1: | ||
Pan fo [[sillaf]] olaf dau [[gair|air]] yn gorffen gyda'r un sain, fel arfer ar ddiwedd [[brawddeg]] ond nid bob amser, ceir '''odl''' (Saesneg: ''rhyme''). |
Pan fo [[sillaf]] olaf dau [[gair|air]] yn gorffen gyda'r un sain, fel arfer ar ddiwedd [[brawddeg]] ond nid bob amser, ceir '''odl''' (Saesneg: ''rhyme''). |
||
Er |
Er enghraifft mae "rhedeg" a "maneg" yn odli gyda'i gilydd ac felly hefyd "Môn" a ffôn". Gall gair unsill hefyd odli gyda gair deusill neu ragor e.e. mae "mi" a "eni" yn odli yn y ddwy linell sy'n dilyn gan [[Lewis Glyn Cothi]]: |
||
: Un mab oedd degan i mi. |
: Un mab oedd degan i mi. |
Fersiwn yn ôl 14:09, 4 Awst 2015
Pan fo sillaf olaf dau air yn gorffen gyda'r un sain, fel arfer ar ddiwedd brawddeg ond nid bob amser, ceir odl (Saesneg: rhyme).
Er enghraifft mae "rhedeg" a "maneg" yn odli gyda'i gilydd ac felly hefyd "Môn" a ffôn". Gall gair unsill hefyd odli gyda gair deusill neu ragor e.e. mae "mi" a "eni" yn odli yn y ddwy linell sy'n dilyn gan Lewis Glyn Cothi:
- Un mab oedd degan i mi.
- Dwynwen! Gwae'i dad o'i eni.
Odl ddwbl ydy odl ble mae'r llafariad ar y goben (y sillaf olaf ond un) hefyd o'r un sain: "hoffi" a "coffi" neu "streipan" a "peipan".
Yng ngwaith y beirdd Cymraeg cynnar fel y Cynfeirdd a'r Gogynfeirdd, mae lled-odl (neu "odl-Wyddelig") yn digwydd yn aml. Fel mae'r enw'n awgrymu, mae'r ddeuasain neu'r llafariaid yn cytuno ond mae'r gytsain yn amrywio. Er enghraifft, 'gwraig' - 'rhaid'. Nid ydy'r odl yma'n ffasiynol yn y Gymraeg erbyn heddiw.