Llyn Ladoga: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Billinghurst (sgwrs | cyfraniadau)
B →‎Gweler hefyd: remove redundant template, link FA now managed from Wikidata, removed: {{Cyswllt erthygl ddethol|ru}} using AWB
Llinell 31: Llinell 31:
*[[Rhestr o lynnoedd Rwsia]]
*[[Rhestr o lynnoedd Rwsia]]



{{Cyswllt erthygl ddethol|ru}}


[[Categori:Llynnoedd Rwsia|Ladoga]]
[[Categori:Llynnoedd Rwsia|Ladoga]]

Fersiwn yn ôl 00:59, 30 Mai 2015

Nodyn:Llyn

Llyn dŵr croyw mwyaf Ewrop yw Llyn Ladoga (Rwsieg Ла́дожское о́зеро / Ladozhskoe ozero), wedi'i leoli yng ngogledd-orllewin Rwsia yn agos at y Môr Baltig yng Ngweriniaeth Karelia ac Oblast Leningrad.

Daearyddiaeth

Mae'r llyn yn gorchuddio arwynebedd o rhwng 17.7 (heb ynysoedd) ac 18.4 (gan gynnwys ynysoedd) mil km2. Ei hyd (o'r gogledd i'r dde) yw 219 km, a'i led cyfartal yw 83 km. Mae ef ar ei ddyfnaf yn y gogledd-orllewin, lle ceir y man dyfnaf, 230m. Ei ddyfnder cyfartal yw 52m. Mae'n llifo i mewn i Gwlff y Ffindir ar hyd Afon Neva drwy St Petersburg. Y Neva yw'r unig afon i lifo allan ohono, ond mae'n dwyn ei ddŵr oddiwrth tua 3500 o isafonydd sy'n llifo i mewn iddo. Y prif isafonydd yw'r Svir, y Volkhov, y Vuoksi a'r Syas. Mae'r llyn yn cynnwys tua 660 o ynysoedd, y rhan fwyaf ohonyn nhw yn y gogledd-orllewin, gan gynnwys yr Ynysoedd Valaam. Y prif drefi ar ei lannau yw Shlisselburg, Novaya Ladoga, Syasstroy, Pitkyaranta, Sortavala, Lakhdenpokhya a Priozersk.

Hanes

Llyn Ladoga

Hyd y 13eg ganrif, enw'r llyn oedd Llyn Nevo. Ailenwyd ar ôl y dref fasnachol o'r un enw (Staraya Ladoga) ar ei lannau. Roedd y rhan ogledd-orllewinol o'r llyn yn rhan o'r Ffindir tan 1940.

Gweler hefyd