Tîm pêl-droed cenedlaethol Hwngari: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Crëwyd tudalen newydd yn dechrau gyda 'Mae '''Tîm pêl-droed cenedlaethol Hwngari''' (Hwngareg: ''Magyar labdarúgó-válogatott'') yn cynrychioli Hwngari yn y byd pêl-droed ac ma...'
(Dim gwahaniaeth)

Fersiwn yn ôl 10:31, 26 Rhagfyr 2014

Mae Tîm pêl-droed cenedlaethol Hwngari (Hwngareg: Magyar labdarúgó-válogatott) yn cynrychioli Hwngari yn y byd pêl-droed ac maent yn dod o dan reolaeth Ffederasiwn Pêl-droed Hwngari (Hwngareg: Magyar Labdarúgó Szövetség) (MLSZ), corff llywodraethol y gamp yn y wlad. Mae'r MLSZ yn aelod o gonffederasiwn Pêl-droed Ewrop, (UEFA).

Mae Hwngari wedi chwarae yn rowndiau terfynol Cwpan y Byd naw o weithiau gan orffen yn ail yn y gystadleuaeth ym 1938 a 1954. Maent hefyd wedi gorffen yn drydydd ym Pencampwriaethau Pêl-droed Ewrop ym 1964 a chipio'r fedal aur yng Ngemau Olympaidd yr Haf deirgwaith, yng Ngemau Olympaidd Helsinki 1952, Tokyo 1964 a Dinas Mecsico 1968.


Cyfeiriadau

Eginyn erthygl sydd uchod am bêl-droed. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.