Môr-filwr: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Crëwyd tudalen newydd yn dechrau gyda '{{ailgyfeirio|morlu|uned filwrol sy'n ymladd ar y môr yn unig|llynges}} Delwedd:Royal Marine Boarding Teams Practice Hone Skills MOD 45151626.jpg|bawd|...' |
B cat |
||
Llinell 11: | Llinell 11: | ||
[[Categori:Môr-filwyr| ]] |
[[Categori:Môr-filwyr| ]] |
||
[[Categori:Galwedigaethau milwrol]] |
|||
[[en:Marine (military)]] |
[[en:Marine (military)]] |
Fersiwn yn ôl 16:37, 23 Hydref 2013
Aelod o lu milwrol sydd yn ymladd ar y tir ac ar y môr yw môr-filwr. Gellir alw uned o fôr-filwyr yn forlu neu'n gorfflu môr-filwyr. Ystyrir môr-filwr yn aml yn fath o droedfilwr.
Bu môr-filwyr mewn rhyw modd yn oes yr Henfyd. Sonia Herodotus a Thucydides am yr epibatai yn llongau'r Groegiaid, a disgrifiodd Polybius categori o filwyr Rhufeinig, milites classiarii ("milwyr y llynges"), oedd yn gwasanaethu ar longau rhyfel. Yn ystod yr Oesoedd Canol yn Ewrop rhoddwyd milwyr ar longau'n aml i gefnogi'r morwyr. Sefydlwyd y morlu modern cyntaf ym 1664 gan y Prydeinwyr, a elwir heddiw yn y Môr-filwyr Brenhinol, a ffurfiwyd y Korps Mariniers, Corfflu Môr-filwyr yr Iseldiroedd ym 1665.[1] Corfflu Môr-filwyr yr Unol Daleithiau, a sefydlwyd ym 1775, yw'r morlu mwyaf yn y byd heddiw.[2] Mae nifer o wledydd wedi sefydlu morluoedd ers diwedd yr Ail Ryfel Byd, ac heddiw mae gan ddros 40 o wledydd unedau o fôr-filwyr.[3]
Mewn rhai gwledydd mae'r môr-filwyr yn rhan o'r fyddin, mewn eraill yn rhan o'r llynges, ac mewn eraill yn llu ar wahân.
Cyfeiriadau
- ↑ (Saesneg) marine. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 15 Hydref 2013.
- ↑ (Saesneg) World's Largest Marine Corps. GlobalSecurity.org. Adalwyd ar 15 Hydref 2013.
- ↑ (Saesneg) Marine Corps Introduction. GlobalSecurity.org. Adalwyd ar 15 Hydref 2013.