Maredudd ap Cynan ab Owain: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Addbot (sgwrs | cyfraniadau) B 1 cysylltiadau rhyngwici a ddarperir bellach gan Wikidata ynn d:q13129943 |
BDim crynodeb golygu |
||
Llinell 7: | Llinell 7: | ||
Bu farw Maredudd ap Cynan yn y flwyddyn [[1212]]. Gadawodd ddau fab, Llywelyn Fawr (nid i'w gymysgu â'r [[Llywelyn Fawr|tywysog o'r un enw]]) a Llywelyn Fychan. |
Bu farw Maredudd ap Cynan yn y flwyddyn [[1212]]. Gadawodd ddau fab, Llywelyn Fawr (nid i'w gymysgu â'r [[Llywelyn Fawr|tywysog o'r un enw]]) a Llywelyn Fychan. |
||
[[Categori:Cymry'r 12fed ganrif]] |
|||
[[Categori:Cymry'r 13eg ganrif]] |
|||
[[Categori:Marwolaethau 1212]] |
[[Categori:Marwolaethau 1212]] |
||
[[Categori:Teyrnas Gwynedd]] |
[[Categori:Teyrnas Gwynedd]] |
Fersiwn yn ôl 23:15, 22 Hydref 2013
Maredudd ap Cynan ab Owain neu Maredudd ap Cynan ab Owain Gwynedd (m. 1212), oedd arglwydd cantrefi Meirionnydd, Ardudwy a Llŷn (gyda'i frawd Gruffudd ap Cynan ab Owain). Roedd yn fab i'r tywysog Cynan ab Owain Gwynedd.
Yn 1175 llwyddodd y ddau frawd i adennill eu tiriogaeth deuluol, sef cyfran eu tad, Cynan, ar ôl gorchfygu eu hewythr Dafydd ab Owain Gwynedd wedi marwolaeth eu tad yn 1174.
Yn y 1170au gwrthsafasant ymosodiadau ar eu tir gan yr Arglwydd Rhys, tywysog Deheubarth. Ymladdodd y ddau yn erbyn Rhodri ab Owain Gwynedd yn y 1190au cynnar ac erbyn 1194 roeddent yn gynghreiriaid i Lywelyn ab Iorwerth pan drechodd Dafydd ab Owain Gwynedd ym Mrwydr Aberconwy.
Bu farw Maredudd ap Cynan yn y flwyddyn 1212. Gadawodd ddau fab, Llywelyn Fawr (nid i'w gymysgu â'r tywysog o'r un enw) a Llywelyn Fychan.