Sioe gerdd: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
B categorïau a rhyngwici
B categori
Llinell 6: Llinell 6:


[[Categori:Sioeau cerdd| ]]
[[Categori:Sioeau cerdd| ]]
[[Categori:Cerddoriaeth]]
[[Categori:Theatr gerdd]]
[[Categori:Dawns]]
[[Categori:Theatr]]


[[bg:Музикален театър]]
[[bg:Музикален театър]]

Fersiwn yn ôl 22:07, 28 Mai 2007

Ffurf o adloniant yw sioe gerdd sy'n cyfuno cerddoriaeth, dawns a lleferydd. Perthyna'n agos i opera, ond yn gyffredinol bydd sioe gerdd yn defnyddio cerddoriaeth boblogaidd, tra na fydd defnydd o sgwrs mewn opera. Ceir eithriadau er hynny.

Datblygodd sioeau cerdd cynnar allan o operetta. Bu Jacques Offenbach yn Ffrainc, a Gilbert a Sullivan yn Lloegr yn llwyddiannus iawn yn creu Opperettas, gyda cherddoriaeth ysgafnach na opera, a chyda sgwrsio. Yn sgil poplogrwydd yr operettas cynnar, datblygodd y sioeau cerdd cynnar, gan roi pwyslais ar actorion enwog oedd yn perfformio ac ar eitemau dawns mawr. Daeth 'Broadway' yn Efrog Newydd, a'r 'West End' yn Llundain yn ganolfannau pwysig i'r diwydiant.

Mae Cymru hefyd wedi cyfrannu i fyd sioeau cerdd. Ymhlith yr actorion o Gymru sydd wedi perfformio yn y 'West End' mae Sian Cothi a Michael Ball. Ceir traddodiad diweddar o gyfansoddi sioe gerdd ar gyfer yr Eisteddfod Genedlaethol. Ymysg y sioeau yma ceir 'Pum Diwrnod o Ryddid' ac 'Er Mwyn Yfory' a gynhyrchwyd gan Gwmni Theatr Maldwyn.