Gwireb: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
VolkovBot (sgwrs | cyfraniadau)
B r2.7.2) (robot yn ychwanegu: lv:Aforisms
Legobot (sgwrs | cyfraniadau)
B Bot: Migrating 49 interwiki links, now provided by Wikidata on d:q165740 (translate me)
Llinell 21: Llinell 21:
[[Categori:Llenyddiaeth]]
[[Categori:Llenyddiaeth]]
[[Categori:Termau llenyddol]]
[[Categori:Termau llenyddol]]

[[az:Aforizm]]
[[bg:Афоризъм]]
[[br:Pennlavar]]
[[ca:Aforisme]]
[[cs:Aforismus]]
[[cv:Афоризм]]
[[da:Aforisme]]
[[de:Aphorismus]]
[[en:Aphorism]]
[[eo:Aforismo]]
[[es:Aforismo]]
[[et:Aforism]]
[[fa:کلام قصار]]
[[fi:Aforismi]]
[[fr:Aphorisme]]
[[ga:Nathaíocht]]
[[gl:Aforismo]]
[[hr:Aforizam]]
[[hu:Aforizma]]
[[hy:Աֆորիզմ]]
[[ia:Aphorismo]]
[[id:Aforisme]]
[[it:Aforisma]]
[[ja:格言]]
[[ka:აფორიზმი]]
[[kk:Афоризм]]
[[ko:명언]]
[[ky:Ылакап]]
[[la:Aphorismus]]
[[lb:Aphorismus]]
[[lt:Aforizmas]]
[[lv:Aforisms]]
[[mn:Афоризм]]
[[nl:Aforisme]]
[[no:Aforisme]]
[[pl:Aforyzm]]
[[pt:Aforismo]]
[[ro:Aforism]]
[[ru:Афоризм]]
[[sh:Aforizam]]
[[sk:Aforizmus]]
[[sl:Aforizem]]
[[sq:Aforizmi]]
[[sr:Афоризам]]
[[sv:Aforism]]
[[tr:Özdeyiş]]
[[uk:Афоризм]]
[[wa:Pinsêye (sicrijhaedje)]]
[[zh:格言]]

Fersiwn yn ôl 10:04, 14 Mawrth 2013

Gosodiad yn cynnwys gwir cyffredinol, wedi'i fynegi'n gwta, yw gwireb.[1] Mae'r wireb yn perthyn yn agos i'r ddihareb ond er bod diarebion yn cynnwys elfen wirebol yn aml nid yw pob gwireb yn ddihareb. Gwahaniaeth arall rhwng y wireb a'r ddihareb yw bod y wireb yn greadigaeth ymwybodol lenyddol gan amlaf tra bod y ddihareb, fel rheol, yn tarddu o'r diwylliant poblogaidd. Ond gellir cymhwyso'r term 'gwireb' i gynnwys unrhyw osodiad o'r gwir cyffredinol, mewn unrhyw faes.

Llenyddiaeth

Fel y diarebion, mae gan y wireb hanes hir mewn llenyddiaeth. Gelwir barddoniaeth sy'n cynnwys elfen amlwg o wireb yn 'canu gwirebol'. Roedd y genre yma o ganu yn boblogaidd yn yr Oesoedd Canol ac fe'i ceir gyda chanu natur yn aml. Un o'r casgliadau mwyaf adnabyddus yw Englynion y Clyweit ('Englynion y Clywaid'), casgliad o englynion gwirebol a gyfansoddwyd tua diwedd y 12fed ganrif neu ddechrau'r 13eg, yn ôl Ifor Williams. Enghraifft arall o ganu gwirebol yn y Gymraeg yw'r cyfresi o englynion 'Eiry mynydd' ('Eira mynydd'), e.e. y rhai a geir yn y gerdd 'Penyd Llywelyn a Gwrnerth':

Eiry mynydd, gorwyn bro,
Dedwydd pawb wrth a'i llocho;
Creawdr Nef a'th diango.[2]

Mae canu natur yn elfen amlwg yn y canu gwirebol; elfen amlwg arall yw'r elfen o brofiad dynol. Dyma ran o gyfres hir sy'n cynnwys y ddwy elfen trwy ei gilydd a adnabyddir fel 'Y Gnodau' am fod pob llinell bron yn dechrau gyda'r ffurf ferfol gnawd ('arferol yw'):

Gnawd gwynt o'r gogledd; gnawd rhianedd chweg;
Gnawd gŵr teg yng Ngwynedd;
Gnawd i dëyrn arlwy gwledd;
Gnawd gwedi llyn lledfrydedd.[3]

Cyfeiriadau

  1. Morgan D. Jones. Termau Iaith a Llên (Gwasg Gomer, 1972), tud. 77.
  2. Marged Haycpck (gol.), Blodeugerdd Barddas o Ganu Crefyddol Cynnar (Cyhoeddiadau Barddas, 1994), tud. 341.
  3. Dyfynnir gan Gwyn Thomas yn Y Traddodiad Barddol (Gwasg Prifysgol Cymru, 1976), tud. 101. Nodiadau: Chweg = 'teg', llyn = 'diod (gadarn)', lledfrydedd = 'tristwch'.