Huang He: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
EmausBot (sgwrs | cyfraniadau) B r2.7.2+) (Robot: Yn newid sr:Хоангхо yn sr:Хуангхе |
B r2.7.2) (Robot: Yn newid et:Huang He yn et:Kollane jõgi |
||
Llinell 36: | Llinell 36: | ||
[[eo:Flava Rivero]] |
[[eo:Flava Rivero]] |
||
[[es:Río Amarillo]] |
[[es:Río Amarillo]] |
||
[[et: |
[[et:Kollane jõgi]] |
||
[[eu:Ibai Horia]] |
[[eu:Ibai Horia]] |
||
[[fa:هوانگ هو]] |
[[fa:هوانگ هو]] |
Fersiwn yn ôl 17:01, 1 Mawrth 2013
Afon ail-hiraf Gweriniaeth Pobl Tsieina yw'r Huang He (黃河, Huánghé), trawslythrennir hefyd fel Huang Ho, yr Afon Felen. Mae'n 5464 km o hyd; dim ond afon Yangtze sy'n hirach. Saif yn chweched ymysg afonydd y byd o ran hyd.
Ceir tarddiad yr afon ym mynyddoedd Bayankera yn nhalaith Qinghai, 4500 medr uwch lefel y môr. Llifa tua'r dwyrain trwy saith talaith a dau ranbarth ymreolaethol: Qinghai, Sichuan, Gansu, Ningxia, Mongolia Fewnol, Shaanxi, Shanxi, Henan, a Shandong. Mae ei haber yn Dongying, Shandong, lle mae'n llifo i mewn i Fôr Bohai. Y prif ddinasoedd ar yr afon yw Lanzhou, Wuhai, Baotou, Kaifeng, Luoyang, Zhengzhou a Jinan.
Mae ei dalgylch yn 944,970 cilomedr sgwar, ond gan fod hinsawdd y rhan fwyaf o'i dalgylch yn sych, heblaw y rhan ddwyreiniol yn Henan a Shandong, mae llai o ddŵr ynddi na nifer o afonydd eraill Tsieina. Daw'r enw "yr Afon Felen" o liw y dyfroedd.
Mae ei chwrs dros y gwastadeddau yn droellog, ac mae wedi newid cwrs nifer o weithiau dros y canrifoedd. Yn y gorffennol, bu llifogydd yr afon yn gyfrifol am golli bywydau ar raddfa enfawr. Gwneir defnydd helaeth ar ddyfroedd yr afon ar gyfer dyfrhau.