Leo I: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
B r2.7.3) (Robot: Yn newid it:Leone I di Bisanzio yn it:Leone I il Trace |
B robot yn ychwanegu: af:Leo I van Bisantium |
||
Llinell 14: | Llinell 14: | ||
[[Categori:Marwolaethau 474]] |
[[Categori:Marwolaethau 474]] |
||
[[af:Leo I van Bisantium]] |
|||
[[als:Leo I. (Byzanz)]] |
[[als:Leo I. (Byzanz)]] |
||
[[an:León I de Bizancio]] |
[[an:León I de Bizancio]] |
Fersiwn yn ôl 01:26, 14 Ionawr 2013
Ymerawdwr Bysantaidd o 457 hyd 474 oedd Flavius Valerius Leo neu Leo I (401 - 18 Ionawr 474), Ef oedd yr olaf o gyfres o ymerodron a osodwyd ar yr orsedd gan y cadfridog Alanaidd Aspar.
Coronwyd Leo ar 7 Chwefror 457, y tro cyntaf i'r ymerawdwr gael ei goroni gan Batriarch Caergystennin. Gwnaeth Leo gynghrair a'r Isawriaid, gan briodi ei ferch i'w harweinydd Tarasicodissa, a olynodd Leo fel yr ymerawdwr Zeno yn ddiweddarach. Trwy'r cynghrair yma, gallodd ddod yn rhydd o reolaeth Aspar.
Bu'n ymladd llawer yn erbyn y Gothiaid dwyreiniol a'r Hyniaid. Apwyntiodd Anthemius yn ymerawdwr yn y gorllewin yn 467. Dechreuodd ymgyrch yn erbyn y Fandaliaid yn 468, ond fe'i gorchfygwyd oherwydd brad ei frawd-yng-nghyfraith Basiliscus.
Magwyd Theodoric Fawr, arweinydd y Gothiaid, yn llys Leo yng Nghaergystennin.