Klemens Wenzel von Metternich: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
TjBot (sgwrs | cyfraniadau)
B r2.7.2) (robot yn ychwanegu: oc:Klemens Wenzel von Metternich
B r2.7.3) (robot yn newid: es:Klemens von Metternich
Llinell 24: Llinell 24:
[[en:Klemens von Metternich]]
[[en:Klemens von Metternich]]
[[eo:Klemens von Metternich]]
[[eo:Klemens von Metternich]]
[[es:Clemente de Metternich]]
[[es:Klemens von Metternich]]
[[et:Klemens Wenzel Lothar von Metternich]]
[[et:Klemens Wenzel Lothar von Metternich]]
[[eu:Klemens Wenzel von Metternich]]
[[eu:Klemens Wenzel von Metternich]]

Fersiwn yn ôl 05:19, 3 Ionawr 2013

Portread o'r Tywysog Metternich (c. 1825) gan Syr Thomas Lawrence.

Gwladweinydd Awstriaidd a aned yn yr Almaen oedd y Tywysog Klemens Wenzel von Metternich (enw llawn yn yr Almaeneg: Klemens Wenzel Nepomuk Lothar, Fürst von Metternich-Winneburg zu Beilstein; 15 Mai 1773 – 11 Mehefin 1859) oedd yn un o ddiplomyddion pwysicaf ei oes. Gwasanaethodd fel Gweinidog Tramor yr Ymerodraeth Lân Rufeinig a'i gwladwriaeth olynol, Ymerodraeth Awstria, o 1809 hyd iddo orfod ymddiswyddo ynghylch chwydroadau 1848. Un o'i dasgau cyntaf oedd i bennu détente â Ffrainc oedd yn cynnwys priodas Napoleon a'r Arch-dduges Awstriaidd Marie Louise. Yn fuan wedi hynny, ef oedd y gweinidog tramor a ddaeth ag Awstria i mewn i Ryfel y Chweched Glymblaid ar ochr y Cynghreiriaid, arwyddodd Cytundeb Fontainebleu gan alltudio Napoleon, ac arweiniodd cynrychiolwyr Awstria yng Nghynhadledd Fienna. I gydnabod ei wasanaeth dros Ymerodraeth Awstria cafodd ei ddyrchafu'n Dywysog ym mis Hydref 1813. O dan ei arweiniad, parhaodd "system Metternich" o gynadleddau rhyngwladol am ddegawd arall wrth i Awstria ymochri â Rwsia, ac i raddau llai Prwsia.