Socrates: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
B gwa |
Xqbot (sgwrs | cyfraniadau) B r2.7.3) (robot yn ychwanegu: kn:ಸಾಕ್ರಟೀಸ್ |
||
Llinell 84: | Llinell 84: | ||
[[kk:Сократ]] |
[[kk:Сократ]] |
||
[[km:សូក្រាត]] |
[[km:សូក្រាត]] |
||
[[kn:ಸಾಕ್ರಟೀಸ್]] |
|||
[[ko:소크라테스]] |
[[ko:소크라테스]] |
||
[[ku:Sokrates]] |
[[ku:Sokrates]] |
Fersiwn yn ôl 19:10, 25 Hydref 2012
Athronydd cynnar a hynod ddylanwadol o Athen, gwlad Groeg, oedd Socrates (Groeg: Σωκράτης): ef yn ôl llawer a osododd sylfeini athroniaeth Orllewinol. Fe'i ganwyd oddeutu 470 CC, ac fe fu farw yn 399 CC yn Athen.
Treuliodd y rhan fwyaf o'i fywyd yn ymchwilio'n frwd i'r syniad o ddoethineb, trwy ddadlau a rhesymu gyda chyfeillion, disgyblion ac athronyddwyr yr oes. Ym mhen amser, daethpwyd i'w adnabod fel y dyn mwyaf doeth yng Ngroeg.
Roedd gan bobl farnau tra-gwahanol am Socrates: rhai yn uchel eu parch ohonno, eraill yn ei gollfarnu. Roedd ganddo ddilynwyr brwd (megis Platon), a gelynion ffyrnig yn ogystal.
Yn hen ddyn, fe syrthiodd i warth awdurdodau gwladwriaeth Athen. Fe'i gorchmynwyd i ymatal rhag ymddiddan cyhoeddus, ac i beidio ymwneud â phendefigion ifanc; ond fe barhaodd i wneud hynny yn ôl ei arfer.
Yn ôl yr hanesion traddodiadol, pan yn 70 oed, fe'i arestiwyd gan yr awdurdodau. Fe'i cyhuddwyd o lygru moes pobl ifanc, dyfeisio duwiau newydd, ac anffyddiaeth, ac fe'i dedfrydwyd i farwolaeth. Er iddo gael cyfle i ffoi o Athen penderfynodd aros yn ei ddinas, a bu farw trwy yfed diod wenwynig o hemloc.