Capel y Bedyddwyr Cymraeg, Tabernacl, Caerdydd: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Dim crynodeb golygu |
B tynnu nodyn eginyn, dileu cat dwbl |
||
Llinell 14: | Llinell 14: | ||
*[http://www.tabernaclcaerdydd.org.uk Gwefan y capel] |
*[http://www.tabernaclcaerdydd.org.uk Gwefan y capel] |
||
[[Categori:Adeiladau ac adeiladwaith yng Nghaerdydd]] |
|||
⚫ | |||
[[Categori:Addoldai Caerdydd|Tabernacl, Caerdydd]] |
[[Categori:Addoldai Caerdydd|Tabernacl, Caerdydd]] |
||
⚫ | |||
{{eginyn Caerdydd}} |
Fersiwn yn ôl 04:33, 7 Hydref 2012
Mae Capel y Bedyddwyr Cymraeg, Tabernacl wedi bod yn gwasanaethu Cristnogion Bedyddiedig Cymraeg a'r gymdeithas ehangach yng nghanol Caerdydd ers 1821.[1] Cafodd y capel ei ymestyn ym 1865, ac mae'n dal bron i 1,000 o addolwyr.[2] Ceir ffenestri lliw ar hyd y capel gan gynnwys dwy ffenestr o fedydd yr Iesu gan Goodwin Lewis a'r Swper Olaf gan Leornado Da Vinci. Yn 1907 gosodwyd organ newydd gan gwmni Griffiths & Stroud o Gaerfaddon.[3]
Gweinidogion
Ers 1900 bu pump o weinidogion yno, sef y Parchgn. Charles Davies, J. William Hughes, Myrddin Davies, a Raymond Williams. Y gweinidog ers 1991 yw'r Parch. Denzil John BA MTh, emynydd a bardd sydd â ddiddordeb mewn gwaith dyngarol yng Nghaerdydd ac ar draws y byd.
Mae'r aelodaeth yn cynnyddu yn raddol ac erbyn hyn mae yno 200 o aelodau. Mae gwasanaethau ar y Sul am 10.30 a 6.00 a nifer o gyfarfodydd gwahanol yn ystod yr wythnos.
Cyfeiriadau
- ↑ Taflen Wybodaeth Leol Caerdydd 19 oddi ar wefan capeli.org.uk (Saesneg)
- ↑ Wooding, Jonathan M (Awst 2011). A guide to the churches and chapels of Wales. Gwasg Prifysgol Cymru (Saesneg)
- ↑ Wooding, Jonathan M (Awst 2011). A guide to the churches and chapels of Wales. Gwasg Prifysgol Cymru (Saesneg)