Diwrnod Mamiaith Rhyngwladol: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
RedBot (sgwrs | cyfraniadau) B r2.7.2) (robot yn ychwanegu: mg:Andro iraisam-pirenen'ny teny nibeazana |
B r2.7.3) (robot yn ychwanegu: he:יום שפת האם הבינלאומי |
||
Llinell 41: | Llinell 41: | ||
[[gan:世界母語日]] |
[[gan:世界母語日]] |
||
[[gl:Día Internacional da Lingua Materna]] |
[[gl:Día Internacional da Lingua Materna]] |
||
[[he:יום שפת האם הבינלאומי]] |
|||
[[hi:अन्तर्राष्ट्रीय मातृभाषा दिवस]] |
[[hi:अन्तर्राष्ट्रीय मातृभाषा दिवस]] |
||
[[hr:Međunarodni dan materinskoga jezika]] |
[[hr:Međunarodni dan materinskoga jezika]] |
Fersiwn yn ôl 15:02, 26 Medi 2012
Diwrnod a gyhoeddwyd gan UNESCO i hyrwyddo amrywiaeth ieithyddol a diwylliannol ac amlieithrwydd yw'r Diwrnod Mamiaith Rhyngwladol. Yn 1999, cyhoeddodd UNESCO 21 Chwefror yn Ddiwrnod Mamiaith Rhyngwladol, mewn teyrnged i Bhasha Andolon (Mudiad yr Iaith Fengaleg), mudiad iaith ym Mangladesh, ac er mwyn cefnogi a hyrwyddo hawliau grwpiau ethnig-ieithyddol ledled y byd.
Yn 1948 roedd Bangladesh (Dwyrain Pacistan) yn rhan o wladwriaeth newydd Pakistan. Cyhoeddodd Llywodraeth Pacistan mai Wrdw — iaith Gorllewin Pacistan yn bennaf — yn unig fyddai'r iaith genedlaethol, ac arweiniodd hyn at brostestiadau niferus gan siaradwyr Bengaleg Dwyrain Pacistan. Yn wyneb hynny a'r tensiynau enwadol ac anfodlonrwydd cyffredinol am y ddeddf newydd, gwaharddodd y llywodraeth gyfarfodydd cyhoeddus a ralïau. Ond penderfynodd myfyrwyr Prifysgol Dhaka ac ymgyrchwyr gwleidyddol eraill herio'r gyfraith a threfnu protest iaith ar 21 Chwefror 1952 yn y brifddinas, Dhaka. Torwyd y brotest i fyny gan yr heddlu a lladdwyd rhai o'r myfyrwyr. Arweiniodd y marwolaethau hynny at sefyllfa o ansefydlogrwydd sifil ar raddfa eang a arweinwyd gan y Cynghrair Mwslim Awami (Cynghrair Awami yn ddiweddarach). Ar ôl rhai blynyddoedd o wrthdaro, ildiodd y llywodraeth ganolog a rhoddwyd statws swyddogol i'r Fengaleg yn 1956.
Dethlir y Diwrnod Mamiaith Rhyngwladol fel gŵyl gyhoeddus genedlaethol ym Mangladesh.