Kaloyan, tsar Bwlgaria: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Xqbot (sgwrs | cyfraniadau) B r2.7.3) (Robot: Yn newid fr:Jean Kaloian yn fr:Kaloyan |
Xqbot (sgwrs | cyfraniadau) B r2.7.3) (robot yn ychwanegu: mk:Калојан |
||
Llinell 22: | Llinell 22: | ||
[[ko:칼로얀]] |
[[ko:칼로얀]] |
||
[[la:Caloiohannes (rex Bulgariae)]] |
[[la:Caloiohannes (rex Bulgariae)]] |
||
[[mk:Калојан]] |
|||
[[nl:Kalojan van Bulgarije]] |
[[nl:Kalojan van Bulgarije]] |
||
[[pl:Kałojan]] |
[[pl:Kałojan]] |
Fersiwn yn ôl 19:25, 17 Awst 2012
Tsar Bwlgaria o 1197 hyd 1207 oedd Kaloyan, tsar Bwlgaria. Roedd yn drydydd teyrn Ail Deyrnas Bwlgaria, ar ôl ei frodyr, Ivan Asen I a Pedr II.
Daeth â sefydlogrwydd i'r deyrnas, oedd wedi cael ei rhyddhau o reolaeth Bysantaidd ychydig o flynyddoed ynghynt. Arweiniodd gyrchoedd llwyddiannus yn erbyn Byzantium, gan gipio Varna ar ôl gwarchae tridiau ar 24 Mawrth 1201. Gwelir ei bolisi gwrth-Bysantaidd hefyd yn ei berthnasoedd â'r Eglwys Orllewinol. Cyrhaeddodd cennad o'r Pab Innocent III Fwlgaria ym 1204. Coronwyd Kaloyan ganddo fel brenin Bwlgaria a Wallachia, ac eneinio Archesgob Vasily o Tarnovo fel pennaeth eglwys y Bwlgariaid a'r Vlachiaid. Cydnabu Kaloyan oruchafiaeth Eglwys Rhufain. Ar ôl i Gaergystennin gael ei meddiannu gan Groesgadwyr y Bedwaredd Groesgad ym 1204, cymerodd Kaloyan reolaeth dros Adrianopolis, dinas Roeg nad oedd wedi cwymo i'r Croesgadwyr. Amddifynnodd Kaloyan y ddinas yn llwyddiannus, gan drechu'r Croesgadwyr mewn brwydr ger y ddinas ar 14 Ebrill 1205. Daliodd y lluoedd Bwlgariadd yr Ymerawdr Baldwin I, a fu farw ar 11 Mehefin mewn dalfa yn Veliko Tarnovo.
Enillodd Kaloyan fuddugoliaethau eraill yn erbyn yr Ymerodraeth Ladin, gan gipio Serres a Philippopolis (Plovdiv) a thiriogaeth arall yn Thracia a Macedonia. Llofruddiwyd Kaloyan gan aelodau o'i fyddin ei hun yn ystod gwachae Thessaloniki ym mis Hydref 1207.