Louis Dduwiol: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
B r2.7.1) (robot yn ychwanegu: ga:Lughaidh Cráifeach |
B r2.7.1) (robot yn newid: mr:भक्त लुई (पवित्र रोमन सम्राट) |
||
Llinell 46: | Llinell 46: | ||
[[la:Ludovicus (imperator)]] |
[[la:Ludovicus (imperator)]] |
||
[[lb:Louis de Frommen]] |
[[lb:Louis de Frommen]] |
||
[[mr:भक्त लुई (पवित्र रोमन सम्राट)]] |
|||
[[mr:लुइस पहिला द पायस]] |
|||
[[nl:Lodewijk de Vrome]] |
[[nl:Lodewijk de Vrome]] |
||
[[no:Ludvig den fromme]] |
[[no:Ludvig den fromme]] |
Fersiwn yn ôl 05:02, 14 Tachwedd 2011
Roedd Louis Dduwiol (Mehefin/Awst 778 - 23 Mehefin 840) yn Ymerawdwr Glân Rhufeinig a brenin Aquitania.
Louis oedd trydydd mab Siarlymaen, a bwriad gwreiddiol y tad oedd rhannu'r ymerodraeth rhyngddynt. Fodd bynnag gwrthryfelodd un mab yn erbyn ei dad, a bu'r ddau arall farw o flaen Siarlymaen, felly etifeddodd Louis yr ymerodraeth i gyd. Yn ogystal a nifer o ferched, bu ganddo bedwar mab. O'i wraig gyntaf, Ermenganda de Hesbay, cafodd dri mab, Lothair I a ddaeth yn Ymerawdwr Glân Rhufeinig, Louis yr Almaenwr a Pipin o Aquitania. O'i ail wraig, Judith, merch Welf, cafodd fab arall, Siarl Foel.
Yn wreiddiol bwriadai Louis rannu'r ymerodraeth rhwng y tri mab hynaf, ond yn nes ymlaen dymunai ychwanegu'r pedwerydd. Gwrthryfelodd y meibion hynaf yn erbyn eu tad, a buont yn ymladd am eu cyfran o'r ymerodraeth. Bu farw Pipin o Aquitania yn 838, ac yn ddiweddarach diweddwyd y brwydro rhwng y tri arall gan Gytundeb Verdun.