Annála Connacht: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Llinell 1: | Llinell 1: | ||
{{Pethau| fetchwikidata=ALL | suppressfields= yn_cynnwys}} |
|||
[[Llyfr]] blwyddnodau am y blynyddoedd [[1224]] i [[1544]] yw'r '''Annála Connacht''' ("Cronicl/Blwyddnodau Connacht"). Mae'n gasgliad o gofnodion hanes a geir mewn [[llawysgrif]] [[Gwyddeleg|Wyddeleg]] a ysgrifennwyd yn y [[15g]] a'r [[16g]] gan o leiaf dri ysgrifwr, i gyd yn aelodau o'r Clan Ó Duibhgeannáin, mae'n debyg. |

||
Fersiwn yn ôl 15:45, 12 Awst 2021
Enghraifft o'r canlynol | cronicl |
---|---|
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Llyfr blwyddnodau am y blynyddoedd 1224 i 1544 yw'r Annála Connacht ("Cronicl/Blwyddnodau Connacht"). Mae'n gasgliad o gofnodion hanes a geir mewn llawysgrif Wyddeleg a ysgrifennwyd yn y 15g a'r 16g gan o leiaf dri ysgrifwr, i gyd yn aelodau o'r Clan Ó Duibhgeannáin, mae'n debyg.
Mae'r rhannau agoriadol, sy'n cychwyn gyda marw'r Brenin Cathal Crobdearg Ua Conchobair o Connacht, yn arbennig o fanwl ac yn rhoi hanes Connacht yn y 13g a hanner cyntaf y ganrif olynol, yn arbennig yn achos hanes y teuluoedd Ó Conchobhair a Burke. Ond mae'r hanes yn llai manwl a mwy mympwyol am yr 16g. Er hynny, mae'n ddogfen bwysig iawn sy'n cofnodi llawer o ddigwyddiadau mewn cyfnod a fyddai fel arall yn gymharol dywyll yn hanes talaith Connacht ac Iwerddon yn gyffredinol.
Ymddengys fod Annála Connacht ac Annála Clonmacnoise yn deillio o ffynhonnell gyffredin neu o leiaf yn perthyn i'w gilydd o ran ei hanes testunol.
Cyfeiriadau
- Oxford Concise Companion to Irish Literature, Robert Welsh, 1996. ISBN 0-19-280080-9
Dolenni allanol
- "The Annals of Connaught" Y testun Gwyddeleg gwreiddiol
- (Saesneg) cyfieithiad Saesneg ar CELT