Annála Connacht
Enghraifft o'r canlynol | cronicl |
---|---|
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Llyfr blwyddnodau am y blynyddoedd 1224 i 1544 yw'r Annála Connacht ("Cronicl/Blwyddnodau Connacht"). Mae'n gasgliad o gofnodion hanes a geir mewn llawysgrif Wyddeleg a ysgrifennwyd yn y 15g a'r 16g gan o leiaf dri ysgrifwr, i gyd yn aelodau o'r Clan Ó Duibhgeannáin, mae'n debyg.
Mae'r rhannau agoriadol, sy'n cychwyn gyda marw'r Brenin Cathal Crobdearg Ua Conchobair o Connacht, yn arbennig o fanwl ac yn rhoi hanes Connacht yn y 13g a hanner cyntaf y ganrif olynol, yn arbennig yn achos hanes y teuluoedd Ó Conchobhair a Burke. Ond mae'r hanes yn llai manwl a mwy mympwyol am yr 16g. Er hynny, mae'n ddogfen bwysig iawn sy'n cofnodi llawer o ddigwyddiadau mewn cyfnod a fyddai fel arall yn gymharol dywyll yn hanes talaith Connacht ac Iwerddon yn gyffredinol.
Ymddengys fod Annála Connacht ac Annála Clonmacnoise yn deillio o ffynhonnell gyffredin neu o leiaf yn perthyn i'w gilydd o ran ei hanes testunol.
Gweler hefyd[golygu | golygu cod]
Llyfryddiaeth[golygu | golygu cod]
- The Concise Oxford Companion to Irish Literature, gol. Robert Welsh (1996)
Dolenni allanol[golygu | golygu cod]
- "The Annals of Connaught" Y testun Gwyddeleg gwreiddiol
- (Saesneg) cyfieithiad Saesneg ar CELT Archifwyd 2017-03-25 yn y Peiriant Wayback.