Cherokee: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
B r2.7.1) (robot yn ychwanegu: fo:Cherokee-indiánarnir |
Xqbot (sgwrs | cyfraniadau) B robot yn ychwanegu: vi:Cherokee |
||
Llinell 69: | Llinell 69: | ||
[[tr:Cherokee (kabile)]] |
[[tr:Cherokee (kabile)]] |
||
[[uk:Черокі]] |
[[uk:Черокі]] |
||
[[vi:Cherokee]] |
|||
[[zh:切羅基人]] |
[[zh:切羅基人]] |
Fersiwn yn ôl 02:02, 27 Mehefin 2011
Grŵp ethnig o frodorion Gogledd America yw’r Cherokee. Daw’r gair "Cherokee" o’r iaith Choctaw "Cha-la-ke", sy’n golygu "y rhai sy’n byw yn y mynyddoedd". Yn wreiddiol roedd y Cherokee yn eu galw eu hunain y is Ah-ni-yv-wi-ya ("Y brif pobl"). Maent yn siarad Cherokee, iaith Iroquoiaidd, sy’n defnyddio orgraff a ddyfeisiwyd gan Sequoyah.
Pan ddaethant i gysylltiad ag Ewropeaid gyntaf yn y 1600au roeddynt yn byw yn nwyrain a de-ddwyrain yr hyn sy’n awr yr Unol Daleithiau, yn enwedig taleithiau Georgia, Gogledd Carolina a De Carolina . Ystyrid hwy yn un o’r Pum Llwyth Gwareiddiedig. Yn y 1830au, gyda phoblogaeth Ewropeaidd y tiriogaethau hyn yn cynyddu’n gyflym. gorfodwyd y rhan fwyaf ohonynt i symud tua’r gorllewin i Lwyfandir Ozark yn yr hyn a elwir yn Llwybr y Dagrau.
Yn ol cyfrifiad 2000 yn yr Unol Daleithiau, y Cherokee yw’r mwyaf niferus o’r 563 llwyth brodorol yn yr Unol Daleithiau, y rhan fwyaf ohonynt yn Oklahoma. Yn y blynyddoedd diwethaf mae dadlau wedi bod a ddylai disgynyddion caethweision duon fu ym mherchenogaeth y Cherokee yn y cyfnod cyn Rhyfel Cartref America gael eu hystyried fel aelodau o genedl y Cherokee. Mae’r ddadl yn parhau yn 2007, gyda nifer o achosion llys.
Cherokee enwog
- Sequoyah, dyfeisydd orgraff yr iaith Cherokee.
- Elias Boudinot, gwleidydd ac awdur.
- Ned Christie
- Will Rogers
- Jimi Hendrix, canwr, o dras Cherokee trwy ei nain.
Gweler hefyd
Evan Jones, cenhadwr a gyfieithodd y Beibl i'r iaith Cherokee.
Cysylltiadau allanol
- (Saesneg) The Cherokee Nation (safle swyddogol)
- (Saesneg) Eastern Band of Cherokee Indians (safle swyddogol)
- (Saesneg) United Keetoowah Band (safle swyddogol)