Anna Branting
Anna Branting | |
---|---|
![]() | |
Ganwyd | 19 Tachwedd 1855 ![]() Dinas Stockholm, Klara Parish ![]() |
Bu farw | 11 Rhagfyr 1950 ![]() Gustav Vasa ![]() |
Dinasyddiaeth | ![]() |
Galwedigaeth | awdur, ysgrifennwr, newyddiadurwr ![]() |
Swydd | Spouse of the Prime Minister of Sweden, Spouse of the Prime Minister of Sweden, Spouse of the Prime Minister of Sweden ![]() |
Plaid Wleidyddol | Parti Ddemocrataidd Sosialaidd Sweden ![]() |
Priod | Hjalmar Branting ![]() |
Plant | Georg Branting, Sonja Branting-Westerståhl, Vera von Kræmer, Henry von Kræmer ![]() |
Awdures a newyddiadurwr o Sweden oedd Anna Branting (19 Tachwedd 1855 - 11 Rhagfyr 1950). Roedd yn gymarol wleidyddol ei natur gan iddi briodi Prif Weinidog Sweden, Hjalmar Branting, ac roedd yn aelod o Blaid Ddemocrataidd Sosialaidd Sweden. Rhwng y 1880au ac 1917 gweithiai fel beirniad theatr, gan gyhoeddi ei beirniadaeth mewn papurau yn Stockholm dan y llysenw "Réne". Roedd yn perthyn i'r genhedlaeth gyntaf o fenywod i gael swyddi yn y byd newyddiadurol.[1]
Ganed Anna Matilda Charlotta Branting née Jäderinyn Stockholm, Sweden ar 19 Tachwedd 1855, bu hefyd farw yno ac fe'i claddwyd ym Mynwent Eglwys Adolf Fredrik.[2][3][4][5][6][7]
Magwraeth[golygu | golygu cod]
Charlotta Gustava Holm, gwraif tŷ oedd ei mam ac arolygydd gyda'r heddlu oedd ei thad, Erik Jäderin. Cafodd ei haddysgu yn Athrofa Brenhinol Pellach i Fenywod (neu'r Kungliga Högre Lärarinneseminariet), rhwng 1868 a 1872.
Priododd yr is-gapten Gustav Vilhelm von Kraemer (1851-1884) yn 1877, ond ysgarodd y ddau yn 1883. Priododd eilwaith, y tro hwn i Hjalmar Branting yn 1884 ac ni chawsant blant. [8]
Gwaith[golygu | golygu cod]
Roedd yn newyddiadurwr yn y papurau:
- Tiden - 1884—1886
- Socialdemokraten - 1886—1892
- Stockholmstidningen - 1892—1909
- Socialdemokraten - 1913—1917.
Dechreuodd weithio fel cyfieithydd ar ôl ei ysgariad gyda von Kraemer a chafodd swydd newyddiadurwr gyda Branting, a ddaeth i fod yn ail briod iddi: ar ôl iddo golli ei ffortiwn, Anna oedd cefn ariannol y teulu. O 1892 cafodd yrfa lwyddiannus fel beirniad theatr, roedd yn cael ei pharchu a'i hofni oherwydd ei hadolygiadau miniog a ffraeth.
Nofelydd[golygu | golygu cod]
Cyhoeddodd ei nofel gyntaf yn 1893. Themna ei nofelau yw dadl y dydd: y ddadl neu'r anghytuno rhwng y ferch fodern a chymdeithas. Yn ei llyfrau mae'r ferch yn hynod o rwystredig gan ei bod yn cael ei dal yn ôl gan gymdeithas hŷn, ac yn ceisio ymryddhau o hualau traddodiadau cyfyng iawn.
Aelodaeth[golygu | golygu cod]
Bu'n aelod o 'Gartref y Swedeg' a Chymdeithas Cyhoeddwyr Sweden (neu'r Publicistklubben, o 1885).
Anrhydeddau[golygu | golygu cod]
Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]
- ↑ Berger, Margareta, Pennskaft: kvinnliga journalister i svensk dagspress 1690-1975 [Menywod mewn Newyddiaduraeth 1690-1975], Norstedt, Stockholm, 1977
- ↑ Cyffredinol: http://kulturnav.org/83e14dc5-3bfa-4f74-af80-051789f1d4e1; dyddiad cyhoeddi: 12 Chwefror 2016; dyddiad cyrchiad: 27 Chwefror 2016. http://www2.ub.gu.se/kvinndata/portaler/rostratt/pdf/rostrattsfragan.pdf.
- ↑ Disgrifiwyd yn: John Landquist; "Anna M C Branting (f. Jäderin)"; dynodwr Bywgraffiadur Sweden: 16866; dyddiad cyrchiad: 28 Rhagfyr 2016; tudalen: 39. "Anna Mathilda Charlotta Branting 1855-11-19 — 1950-12-11 Journalist, författare, kritiker"; dyddiad cyrchiad: 17 Medi 2020. http://www2.ub.gu.se/kvinndata/portaler/rostratt/pdf/rostrattsfragan.pdf.
- ↑ Rhyw: http://kulturnav.org/83e14dc5-3bfa-4f74-af80-051789f1d4e1; dyddiad cyhoeddi: 12 Chwefror 2016; dyddiad cyrchiad: 27 Chwefror 2016. "Anna Mathilda Charlotta Branting" (yn Saesneg). Cyrchwyd 1 Mai 2020. http://www2.ub.gu.se/kvinndata/portaler/rostratt/pdf/rostrattsfragan.pdf.
- ↑ Dyddiad geni: John Landquist; "Anna M C Branting (f. Jäderin)"; dynodwr Bywgraffiadur Sweden: 16866; dyddiad cyrchiad: 28 Rhagfyr 2016; tudalen: 39. "Klara kyrkoarkiv, Dopböcker över äkta barn, SE/SSA/0010/C I b/9 (1851-1861), bildid: C0056125_00102". t. 114. Cyrchwyd 10 Ebrill 2018.
Anna Mathilda Charlotta, Poliskommisarien ?? Jädrin H(ustru) Gustava Carlotta? Holm....
"Anna Mathilda Charlotta Branting 1855-11-19 — 1950-12-11 Journalist, författare, kritiker"; dyddiad cyrchiad: 17 Medi 2020. - ↑ Dyddiad marw: John Landquist; "Anna M C Branting (f. Jäderin)"; dynodwr Bywgraffiadur Sweden: 16866; dyddiad cyrchiad: 28 Rhagfyr 2016; tudalen: 39. "Anna Mathilda Charlotta Branting 1855-11-19 — 1950-12-11 Journalist, författare, kritiker"; dyddiad cyrchiad: 17 Medi 2020.
- ↑ Man geni: http://digitalastadsarkivet.stockholm.se/Rotemannen2012/Print.aspx?Id=075010070040; dyddiad cyrchiad: 10 Ebrill 2018; enwyd fel: Namn: Anna Matilda Branting /f Jäderin/ Titel: Hustru Födelseuppgifter: 1855-11-19 (Klara),. "Klara kyrkoarkiv, Dopböcker över äkta barn, SE/SSA/0010/C I b/9 (1851-1861), bildid: C0056125_00102". t. 114. Cyrchwyd 10 Ebrill 2018.
Anna Mathilda Charlotta, Poliskommisarien ?? Jädrin H(ustru) Gustava Carlotta? Holm....
https://sok.riksarkivet.se/?postid=Folk_113961846; dyddiad cyrchiad: 12 Ebrill 2018; enwyd fel: Anna Matilda Charlotta, f. 1855 i Klara Stockholms stad. - ↑ Galwedigaeth: "Anna Mathilda Charlotta Branting" (yn Saesneg). Cyrchwyd 1 Mai 2020. John Landquist; "Anna M C Branting (f. Jäderin)"; dynodwr Bywgraffiadur Sweden: 16866; dyddiad cyrchiad: 28 Rhagfyr 2016; tudalen: 39. John Landquist; "Anna M C Branting (f. Jäderin)"; dynodwr Bywgraffiadur Sweden: 16866; dyddiad cyrchiad: 28 Rhagfyr 2016; tudalen: 39.