Neidio i'r cynnwys

Anialwch Alvord

Oddi ar Wicipedia
Anialwch Alvord
Mathanialwch, llyn sych Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirHarney County Edit this on Wikidata
GwladUnol Daleithiau America Edit this on Wikidata
Arwynebedd220 km² Edit this on Wikidata
Uwch y môr1,200 metr, 4,006 troedfedd Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau42.54°N 118.46°W Edit this on Wikidata
Map
Golygfa banoramig o Anialwch Alvord, yn edrych tua'r de-ddwyrain o Fynydd Steens
Lleoliad Anialwch Alvord

Lleolir Anialwch Alvord yn Swydd Harney, yn ne-ddwyrain talaith Oregon ar ochr orllewinol yr Unol Daleithiau. Yn fras, fe'i lleolir i'r de-ddwyrain o Fynydd Steens. Mae'r Anialwch Alvord yn draeth, gwely llyn 12-milltir (19 km) o hyd a 7-milltir (11 km) o led, sy'n derbyn 7 modfedd (180mm) o law ar gyfartaledd yn flynyddol. Caiff ei wahanu o'r arfordir y Mor Tawel gan fynyddoedd y "Coast Range" a Mynyddoedd y Rhaeadru. Ynghyd â'r Mynydd Steen, maent yn creu glawsgodfa. Mae'r Alvord ar uchder o tua 4000 troedfedd (1220m).

Enwyd yr anialwch ar ôl y Capten Benjamin Alvord, a weithiodd fel cad-lywydd yn Adran Fyddinol Oregon yr Unol Daleithiau yn ystod Rhyfel Annibyniaeth America.

Yn ystod y tymor sych, gellir gyrru ar hyd y tirwedd neu lanio awyren fechan arno. Crëwyd record cyflymder ar dir answyddogol ar gyfer menywod ym 1976, pan yrrodd Kitty O'Neil ar gyflymder o 512 milltir yr awr (843 km/awr). Y gymuned agoasf yw Fields (poblogaeth 11).

Dolenni allanol

[golygu | golygu cod]