Angels & Demons (ffilm)
![]() Poster y Ffilm | |
|---|---|
| Cyfarwyddwr | Ron Howard |
| Cynhyrchydd | Brian Grazer John Calley |
| Ysgrifennwr | Sgript: David Koepp Akiva Goldsman Nofel: Dan Brown |
| Serennu | Tom Hanks Ayelet Zurer Ewan McGregor |
| Cerddoriaeth | Hans Zimmer |
| Sinematograffeg | Salvatore Totino |
| Golygydd | Daniel P. Hanley Mike Hill |
| Dylunio | |
| Cwmni cynhyrchu | Imagine Entertainment Columbia Pictures |
| Amser rhedeg | 138 munud |
| Gwlad | Unol Daleithiau |
| Iaith | Saesneg |
Mae Angels & Demons yn addasiad ffilm o nofel Dan Brown o'r un enw. Disgwylir i'r ffilm gael ei rhyddhau ar y 15fed o Fai 2009. Dyma'r ffilm ddilynol i The Da Vinci Code, a oedd hefyd yn addasiad o un o weithiau Dan Brown, er cafodd y nofel Angels & Demons ei chygoeddi cyn The Da Vinci Code. Digwyddodd y ffilmio yn Rhufain ac yn Stiwdios Sony Pictures yn Los Angeles. Ail-gymrodd Tom Hanks prif rôl y cymeriad Robert Langdon, tra bod y cyfarwyddwr Ron Howard, cynhyrchydd Brian Grazer a'r sgriptiwr Akiva Goldsman wedi dychwelyd i'r ffilm.
Plot
[golygu | golygu cod]Galwa CERN Robert Langdon (Tom Hanks) i ymchwilio i lofruddiaeth gwr sydd wedi cael ei frandio gan ambigram yr Illuminati. Darganfydda Langdon gynllwyn y gymdeithas gudd i ladd pedwar Cardinal Catholig a dinistrio Basilica Sant Pedr gyda gwrth-fater a ddygwyd yn ystod y cyfrin-gyngor pabol.
Cast
[golygu | golygu cod]- Tom Hanks fel yr Athro Robert Langdon, athro mewn symboliaeth o Brifysgol Harvard.
- Ayelet Zurer fel Vittoria Vetra, gwyddonydd CERN. Ei gwrth-fater hi a ddygwyd gan yr Illuminati er mwyn ei ddefnyddio fel bom.
- Ewan McGregor fel Camerlengo yr Eglwys Gatholig, Carlo Ventresca.
- Stellan Skarsgård fel Commander Rocher, pennaeth Byddin y Swistir.
- Pierfrancesco Favino fel Ernesto Olivetti.
- Nikolaj Lie Kaas fel yr Hassassin.
- Armin Mueller-Stahl fel Cardinal Strauss.
