Andy King (pêl-droediwr)
Gwedd
King yn chwarae dros Gaerlŷr yn 2013 | |||
| Gwybodaeth Bersonol | |||
|---|---|---|---|
| Enw llawn | Andrew Philip King[1] | ||
| Dyddiad geni | 29 Hydref 1988[1] | ||
| Man geni | Barnstaple, Lloegr | ||
| Taldra | 6 tr 0 modf (1.83 m) | ||
| Safle | Canol Cae | ||
| Gyrfa Ieuenctid | |||
| 1998–2004 | Chelsea | ||
| 2004–2006 | Caerlŷr | ||
| Gyrfa Lawn* | |||
| Blwyddyn | Tîm | Ymdd† | (Gôl)† |
| 2006–2020 | Caerlŷr | 329 | (55) |
| 2018 | → Dinas Abertawe (ar fenthyg) | 11 | (2) |
| 2019 | → Derby County (ar fenthyg) | 4 | (0) |
| 2019 | → Rangers (ar fenthyg) | 2 | (0) |
| 2020 | → Tref Huddersfield (ar fenthyg) | 14 | (0) |
| 2021 | OH Leuven | 1 | (0) |
| 2021–2024 | Bryste | 55 | (1) |
| Cyfanswm | 416 | (58) | |
| Tîm Cenedlaethol | |||
| 2007 | Cymru dan 19 | 7 | (0) |
| 2007–2010 | Cymru dan 21 | 10 | (2) |
| 2009–2018 | Cymru | 50 | (2) |
| * Cyfrifir yn unig: ymddangosiadau i Glybiau fel oedolyn a goliau domestg a sgoriwyd.. † Ymddangosiadau (Goliau). | |||

Pêl-droediwr o Gymru yw Andy King (ganwyd Andrew Phillip King 29 Hydref 1988) sy'n chwarae i Gaerlŷr yn Uwchgynghrair Lloegr a thîm Cenedlaethol Cymru.
Gyrfa clwb
[golygu | golygu cod]Dechreuodd King ei yrfa pêl-droed yn Academi Chelsea pan yn 9 mlwydd oed[2] ond ar ôl cael ei ryddhau, ymunodd â Chaerlŷr pan yn 15 mlwydd oed[2]. Gwnaeth ei ymddangosiad cyntaf i'r clwb ar 2 Hydref 2007 mewn gêm ddi-sgôr yn erbyn Wolverhampton Wanderers[3] ac mae o bellach wedi gwneud dros 250 o ymddangosiadau i'r clwb.
Gyrfa ryngwladol
[golygu | golygu cod]Mae'n gymwys i chwarae dros Gymru oherwydd taid Cymreig[4] a chwaraeodd 10 o weithiau dros dîm dan 21 Cymru. Gwnaeth ei ymddangosiad cyntaf i'r tîm llawn yn erbyn Estonia ym Mharc y Scarlets, Llanelli ym mis Mawrth 2009[5].
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- 1 2 Hugman, Barry J., gol. (2010). The PFA Footballers' Who's Who 2010–11. Mainstream Publishing. t. 236. ISBN 978-1-84596-601-0.
- 1 2 "King: The more I play, the better I'll get". Leicester Mercury. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2013-10-29. Cyrchwyd 2015-06-19.
- ↑ "Leicester 0-0 Wolves". BBC Sport.
- ↑ "Andy King aims to get even with Welsh friends". Leicester Mercury.[dolen farw]
- ↑ "Wales v. Estonia Welsh Football Online". welshfootballonline.com. 2009-03-30.