Allez Les Gallois!

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Allez Les Gallois!  
Awdur Daniel Davies
Gwlad Cymru
Iaith Cymraeg
Pwnc (pynciau) Nofelau Cymraeg i oedolion
Cyhoeddwr Gwasg Carreg Gwalch
Dyddiad cyhoeddi Tachwedd 2016
Math o gyfrwng clawr meddal
Tudalennau 192
ISBN 9781845275983
Argaeledd mewn print

Nofel gan Daniel Davies yw Allez Les Gallois!. Gwasg Carreg Gwalch a gyhoeddodd y gyfrol a hynny yn 2016. Yn 2019 roedd y gyfrol mewn print.[1]

Disgrifiad byr[golygu | golygu cod y dudalen]

Yn ôl broliant y llyfr hwn (2016):

Mehefin 2016: Ymysg y miloedd o Gymry sy'n heidio i Ffrainc i gefnogi'r tîm pêl-droed cenedlaethol [yn ystod y Pencampwriaeth UEFA Euro 2016], mae chwech yno ar berwyl tra gwahanol. Mae Delyth Welsh yn edrych ymlaen at wyliau carafán hamddenol ... ond beth yw cynlluniau cyfrin ei gŵr, Les? Pam fod camperfan Rhian James ac Al Edwards yn llawn nwyddau a chaniau paent? A fydd y cyn-filwr Terry O'Shea yn llwyddo i gael nai ei gyflogwr yn ôl i Gymru'n ddiogel gan osgoi llid y Rwsiaid peryglus? A beth yw rhan y tegan draig goch yn hyn oll? Tri chwpwl, a thair taith hollol wahanol.

Gweler hefyd[golygu | golygu cod y dudalen]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. Gwefan Gwales; adalwyd 17 Ebrill 2019