Alergedd gwenith

Oddi ar Wicipedia
Alergedd gwenith
Enghraifft o'r canlynoldosbarth o glefyd Edit this on Wikidata
Mathanhwylder sy'n berthnasol i glwten, alergedd bwyd, clefyd Edit this on Wikidata
Alergedd gwenith
Enghraifft o'r canlynoldosbarth o glefyd Edit this on Wikidata
Mathanhwylder sy'n berthnasol i glwten, alergedd bwyd, clefyd Edit this on Wikidata

Mae Alergedd gwenith yn alergedd sy'n cyflwyno ei hun fel arfer fel alergedd bwyd, ond sydd hefyd yn gallu bod yn alergedd cyffwrdd sydd o ganlyniad i amlygrwydd galwedigaethol i wenith.

Fel pob alergedd, mae alergedd gwenith yn ymwneud ac immunoglobulin E ac ymateb y mastgell. Mae'r alergedd fel arfer wedi ei gyfyngu i'r protinau sy'n storio hadau mewn gwenith, gyda rhai adweithiau wedi'u cyfyngu i brotinau gwenith, tra bod eraill yn gallu adweithio i sawl math o hadau a meinweoedd planhigion eraill. Mae'n bosib fod alergedd gwenith wedi'i gamenwi am fod nifer o gydrannau alergaidd mewn gwenith, megis atalyddion proteas serin, glutelinau s prolaminau ac mae gwahanol ymatebion yn cael eu priodoli i wahanol broteinau. Mae 27 gwahanol math o alergedd gwenith posibl wedi'u hadnabod hyd yma.[1] Yr ymateb mwyaf eithafol yw anaphylaxis sy'n cael ei achosi gan ymarfer corff neu aspirin, sy'n cael ei briodoli i un omega gliadin sy'n perthyn i'r protein sy'n achosi clwy'r ceudod.[2] Mae symptomau mwy cyffredin eraill yn cynnwys cyfog, y ddanadfrech, atopedd.[3] Nid yw Sensitifrwydd gluten fel arfer yn cael ei ystyried yn alergedd gwenith.

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]

  • Alergedd
  • Alergedd bwyd
  • Rhestr o alergenau
  • Imiwnocemeg gluten

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Sotkovský P, Sklenář J, Halada P, Cinová J, Setinová I, Kainarová A, Goliáš J, Pavlásková K, Honzová S, Tučková L.,"A new approach to the isolation and characterization of wheat flour allergens.", Clin Exp Allergy. 2011 Jul;41(7):1031-43
  2. "Proteomic analysis of wheat flour allergens". J. Agric. Food Chem. 55 (17): 6863–70. 2007. doi:10.1021/jf070843a. PMID 17655322.
  3. Perr HA (2006). "Novel foods to treat food allergy and gastrointestinal infection". Current allergy and asthma reports 6 (2): 153–9. doi:10.1007/s11882-006-0054-z. PMID 16566866.

Rhybudd Cyngor Meddygol[golygu | golygu cod]


Cyngor meddygol

Sgrifennir tudalennau Wicipedia ar bwnc iechyd er mwyn rhoi gwybodaeth sylfaenol, ond allen nhw ddim rhoi'r manylion sydd gan arbenigwyr i chi. Mae llawer o bobl yn cyfrannu gwybodaeth i Wicipedia. Er bod y mwyafrif ohonynt yn ceisio osgoi gwallau, nid ydynt i gyd yn arbenigwyr ac felly mae'n bosib bod peth o'r wybodaeth a gynhwysir ar y ddalen hon yn anghyflawn neu'n anghywir.

Am wybodaeth lawn neu driniaeth ar gyfer afiechyd, cysylltwch â'ch meddyg neu ag arbenigwr cymwys arall!