Albrecht Altdorfer

Oddi ar Wicipedia
Albrecht Altdorfer
Engrafiad o Albrecht Altdorfer gan Philipp Kilian o'r 17g.
Ganwyd1480 Edit this on Wikidata
Regensburg, Altdorf bei Nürnberg Edit this on Wikidata
Bu farw12 Chwefror 1538 Edit this on Wikidata
Regensburg Edit this on Wikidata
Galwedigaetharlunydd, pensaer, goleuwr, gwneuthurwr printiau, engrafwr plât copr, pensaer Edit this on Wikidata
Adnabyddus amThe Battle of Alexander at Issus, Susanna and the Elders, Nativity of the Virgin, Legend of Saint Florian Edit this on Wikidata
Mudiady Dadeni Almaenig Edit this on Wikidata
llofnod

Paentiwr, gwneuthurwr printiau, a drafftsmon Almaenig oedd Albrecht Altdorfer (tua 148012 Chwefror 1538) sydd yn nodedig am arloesi Ysgol y Donaw (Almaeneg: Donauschule), arddull o baentio tirluniau a flodeuai yn nyffrynnoedd blaenau Afon Donaw yn nechrau'r 16g.

Treuliodd y rhan fwyaf o'i oes yn Regensburg, Dugiaeth Bafaria, yn yr Ymerodraeth Lân Rufeinig. Daeth yn ddinesydd ym 1505 a fe'i penodwyd yn bensaer dinesig ym 1526, a gwasanaethai hefyd yn aelod o gyngor Regensburg.[1][2] Enillodd ffafr Maximilian I, Ymerawdwr Glân Rhufeinig, a Wilhelm IV, Dug Bafaria.[1]

Altdorfer mae'n debyg oedd yr arlunydd Ewropeaidd cyntaf ers yr Henfyd i baentio tirluniau nad oedd yn cynnwys pobl nac yn traddodi stori.[2] Gwelir ei fod yn canolbwyntio'n fwyfwy ar natur yn ei baentiadau cynnar megis Brwydr San Siôr â'r Ddraig (1510) sydd yn cynnwys coedwig hynafol bron yn cuddio ffigur y marchog ar ei geffyl. Yn y 1520au paentiodd ei "dirluniau bur" cyntaf o gyrion gwledig Regensburg, heb ffigurau dynol o gwbl. Ei hoff destun oedd coedwigoedd deiliog a dyrys y gwledydd Almaeneg, ac arloesai hefyd yr arfer o arlunio golau'r machlud haul a'r cyfnos.

Cyflawnodd hefyd nifer o baentiadau crefyddol, gan gynnwys ei allorluniau yn Eglwys Sant Florian, Linz, sydd y cynnwys portreadau o Ddioddefaint yr Iesu a merthyrdod Sant Sebastian. Un o'i gampweithiau yw Brwydr Alecsander (Brwydr Issus) (1529) sydd yn dychmygu brwydr drawiadol sydd yn cyfateb i'r olygfa fawreddog o'i chwmpas. Yn ogystal â'i baentiadau, cynhyrchodd Altdorfer ddarluniau, engrafiadau, torluniau pren, ac ysgythriadau.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. 1.0 1.1 Charles G. Nauert, Historical Dictionary of the Renaissance (Lanham, Maryland: The Scarecrow Press, 2004), tt. 12–13.
  2. 2.0 2.1 (Saesneg) Albrecht Altdorfer. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 21 Medi 2021.