Albius Tibullus

Oddi ar Wicipedia
Albius Tibullus
Tibullus yn Nhŷ Delia (1866), paentiad olew gan Lawrence Alma-Tadema sydd yn dychmygu'r bardd (chwith) yn adrodd ei gerddi i'w gariad Delia a chriw o'u cyfeillion.[1]
Ganwyd1 g CC Edit this on Wikidata
Gabii Edit this on Wikidata
Bu farw10s CC Edit this on Wikidata
Rhufain Edit this on Wikidata
DinasyddiaethRhufain hynafol Edit this on Wikidata
Galwedigaethbardd, marwnadwr Edit this on Wikidata
Blodeuodd1 g CC Edit this on Wikidata
Adnabyddus amCorpus Tibullianum Edit this on Wikidata
TadUnknown Edit this on Wikidata
MamUnknown Edit this on Wikidata

Bardd Rhufeinig oedd Albius Tibullus (tua 55 CC19 CC) sydd yn nodedig fel un o brif alarnadwyr yr oes Ladin glasurol, ar y cyd â Propertius ac Ofydd.

Nid oes manylion sicr o'i fywgraffiad. Mae'n bosib iddo hanu o Pedum, ger Praeneste. Mae'n debyg yr oedd yn farchog, ac yn un o gymdeithion y cadfridog Marcus Valerius Messalla Corvinus.[2]

Ysgrifennodd Tibullus ddau lyfr o farddoniaeth, y Delia a'r Nemesis. Priodolir ambell waith arall iddo, ar gam mae'n debyg.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. (Saesneg) "Tibullus at Delia's House", Amgueddfa'r Celfyddydau Cain, Boston. Archifwyd o'r dudalen we wreiddiol drwy gyfrwng archive.today ar 22 Medi 2021.
  2. (Saesneg) Albius Tibullus. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 22 Medi 2021.

Darllen pellach[golygu | golygu cod]

  • Francis Cairns, Tibullus: A Hellenistic Poet at Rome (Caergrawnt: Cambridge University Press, 1979).