Albendasol
| Delwedd:Albendazole.svg, Albendazole Structural Formulae V.1.svg | |
| Enghraifft o: | math o endid cemegol |
|---|---|
| Math | heterocyclic compound |
| Màs | 265.088498 uned Dalton |
| Fformiwla gemegol | C₁₂h₁₅n₃o₂s |
| Enw WHO | Albendazole |
| Clefydau i'w trin | Echinococcosis, opisthorchiasis, hymenolepiasis, clonorchiasis, necatoriasis, systisercosis, trichuriasis, giardiasis, ancylostomiasis, clefyd heintus llyngyr parasitig, enterobiasis, filarial elephantiasis |
| Beichiogrwydd | Categori beichiogrwydd awstralia d, categori beichiogrwydd unol daleithiau america c |
| Rhan o | albendazole monooxygenase activity |
| Yn cynnwys | nitrogen, carbon |
| Dynodwyr | |
| Freebase | /M/04ndbp |
| CAS | 54965-21-8 |
| PubChem CID | 2082 |
| ChEBI | 16664 |
| InChI | Inchi=1s/c12h15n3o2s/c1-3-6-18-8-4-5-9-10(7-8)14-11(13-9)15-12(16)17-2/h4-5,7h,3,6h2,1-2h3,(h2,13,14,15,16) |
| ChEMBL | Chembl1483 |
| ChemSpider | 1998 |
| UNII | F4216019ln |
| ATC | P02ca03 |
| KEGG | D00134 |
| Rhif EC | 259-414-7 |
| Cofrestr Beilstein | 752696 |
| Drugbank | Db00518 |
| ECHA | 100.053.995 |
| HMDB | Hmdb0014659 |
| RxNorm CUI | 430 |
| UMLS CUI | C0001911 |
| NDF-RT | N0000148464 |
| Quora | Albendazole-1 |
Mae albendasol, a elwir hefyd yn albendasolm, yn feddyginiaeth a ddefnyddir ar gyfer trin amrywiaeth o lyngyr parasitig[1].
Defnydd
[golygu | golygu cod]Mae albendasol yn ddefnyddiol i ladd llyngyr giardia, chwip lyngyr, llyngyr ffilaria, llyngyr rhuban porc, llyngyr rhuban cŵn,[2], llyngyr tâp, llyngyr pin, ac eraill. Mae'n cael ei weini trwy'r genau.
Sgil effeithiau
[golygu | golygu cod]Mae sgil effeithiau cyffredin yn cynnwys cyfog, poenau'r abdomen, a chur pen. Mae sgil effeithiau difrifol bosibl yn cynnwys ataliad mêr yr esgyrn, sydd fel arfer yn gwella wrth atal y feddyginiaeth. Mae llid yr afu yn gallu ymddangos ymysg y sawl sydd â phroblemau afu blaenorol. Gall achosi niwed os bydd merched beichiog yn ei gymryd[3].
Defnydd milfeddygol
[golygu | golygu cod]Yn ogystal â chael ei ddefnyddio fel meddyginiaeth i bobl fe'i defnyddir hefyd i drin llyngyr mewn gwartheg, defaid, cathod a chŵn.
Hanes
[golygu | golygu cod]Datblygwyd albendasol ym 1975 gan Robert J. Gyurik a Vassilios J. Theodorides ar gyfer cwmni SmithKline. Fe'i defnyddiwyd yn wreiddiol fel cyffur i drin llyngyr mewn defaid gan gael ei ehangu i drin pobl ym 1982. Mae ar Restr Meddyginiaethau Hanfodol Sefydliad Iechyd y Byd, y meddyginiaethau mwyaf effeithiol a diogel sydd eu hangen mewn system iechyd.
Enwau brand
[golygu | golygu cod]Mae enwau brand yn cynnwys:
- Albenza
- Alworm
- Andazol
- Eskazole
- Noworm
- Zentel
- Alben-G
- ABZ
- Cidazole
- Wormnil
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Web MD Albendazole Tablet adalwyd 8 Mawrth 2018
- ↑ Everyday Health - albendazole adalwyd 8 Mawrth 2018
- ↑ Drugs.com - albendazole adalwyd 8 Mawrth 2018
| Cyngor meddygol |
|
Sgrifennir tudalennau Wicipedia ar bwnc iechyd er mwyn rhoi gwybodaeth sylfaenol, ond allen nhw ddim rhoi'r manylion sydd gan arbenigwyr i chi. Mae llawer o bobl yn cyfrannu gwybodaeth i Wicipedia. Er bod y mwyafrif ohonynt yn ceisio osgoi gwallau, nid ydynt i gyd yn arbenigwyr ac felly mae'n bosib bod peth o'r wybodaeth a gynhwysir ar y ddalen hon yn anghyflawn neu'n anghywir. Am wybodaeth lawn neu driniaeth ar gyfer afiechyd, cysylltwch â'ch meddyg neu ag arbenigwr cymwys arall! |