Alban Stepneth

Oddi ar Wicipedia
Alban Stepneth
Bu farw1611 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
Galwedigaethgwleidydd Edit this on Wikidata
SwyddAelod Seneddol yn Senedd Lloegr, Aelod o Senedd 1572-83, Member of the 1584-85 Parliament, Member of the 1586-87 Parliament, Member of the 1589 Parliament, Aelod o Senedd 1604-1611 Edit this on Wikidata

Roedd Alban Stepney neu Stepneth (bu farw 1611) yn wleidydd o Sais a gynrychiolodd etholaethau Cymreig yn Nhŷ'r Cyffredin ar wahanol adegau rhwng 1572 a 1611.[1]

Roedd Stepney yn fab i Thomas Stepney o Aldenham, Swydd Hertford a'i wraig Dorothy (Dorati) Winde merch John Winde (hefyd Weind neu Wynde a Wyld) o Ramsey Swydd Lincoln. Ymaelododd fel ysgolhaig yng Ngholeg Crist, Caergrawnt ym mis Hydref 1562 ac aeth i Clement Inn, un o gyn Ysbytai'r Frawdlys. Ym 1561 fe'i penodwyd yn gofrestrydd Esgobaeth Tyddewi. Ym 1572, cafodd ei ethol yn Aelod Seneddol dros Hwlffordd. Bu'n Uchel Siryf Sir Benfro o 1572 i 1573. Cafodd ei benodi'n gomisiynydd tanerdai yn Sir Benfro ym 1574 gwasanaethodd fel ynad heddwch dros Sir Benfro o 1575. Fe'i etholwyd yn AS etholaeth Hwlffordd eto ym 1586 ac eto ym 1584 a 1586. Yn 1589 cafodd ei ethol yn AS dros Aberteifi. Bu'n Uchel Siryf Sir Benfro unwaith eto o 1589-1590 ac roedd yn Uchel Siryf Sir Gaerfyrddin o 1596 i 1597. Daeth yn Ddirprwy Raglaw Sir Gaerfyrddin ym 1602. Ym 1604 cafodd ei ethol yn Aelod Seneddol dros Sir Benfro. Bu'n Uchel Siryf Sir Benfro unwaith eto o 1604 i 1605.

Priododd ddwywaith ei wraig gyntaf oedd Margaret Cathern ferch Thomas Catharn neu Cadern o Prendergast ac yn ail Mary Philipps, merch William Philipps o Picton.

Etifeddodd Ystâd Prendergast trwy ei briodas gyntaf.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

Senedd Lloegr
Rhagflaenydd:
John Garnons
Aelod Seneddol Hwlffordd
1572 - 1586
Olynydd:
Syr James Perrot
Senedd Lloegr
Rhagflaenydd:
Francis Cheyne
Aelod Seneddol Aberteifi
1589
Olynydd:
Ferdinando Gorges
Senedd Lloegr
Rhagflaenydd:
John Philipps
Aelod Seneddol for Sir Benfro
1604 - 1611
Olynydd:
John Wogan