Aisling Bea

Oddi ar Wicipedia
Aisling Bea
FfugenwAisling Bea Edit this on Wikidata
GanwydAisling Cliodhnadh O'Sullivan Edit this on Wikidata
16 Mawrth 1984 Edit this on Wikidata
Swydd Kildare Edit this on Wikidata
DinasyddiaethGweriniaeth Iwerddon Edit this on Wikidata
Alma mater
Galwedigaethdigrifwr, actor ffilm, sgriptiwr Edit this on Wikidata
PerthnasauMícheál Ó Súilleabháin, Siobhán Ní Shúilleabháin Edit this on Wikidata
Gwobr/auSo You Think You're Funny Edit this on Wikidata
Gwefanhttps://www.aislingbea.com/ Edit this on Wikidata

Mae Aisling O'Sullivan a adnabyddir yn broffesiynol fel Aisling Bea (ganed 16 Mawrth 1984)[1][2] yn actores, comedïwraig ac ysgrifenwraig Wyddelig.[3][4] Fe'i hadnabyddir am ei hymddangosiadau gwadd ar raglenni panel comedi megis QI a The Big Fat Quiz of Everything. Ers 2016, mae'n gapten tîm ar 8 Out of 10 Cats.

Bywyd cynnar[golygu | golygu cod]

Ganwyd Bea yn Swydd Kildare, Iwerddon, i Brian O'Sullivan, cyn joci proffesiynol,[1] a Helen Moloney. Mae ganddi chwaer o'r enw Sinead.[5] Tad-cu Bea yw'r nofelydd a bardd Gwyddeleg Mícheál Ó Súilleabháin. Mynychodd Academi Gerdd a'r Celfyddydau Dramatig Llundain (LAMDA) ac mae ganddi radd mewn Ffrangeg ac Athroniaeth o Goleg y Drindod, Dulyn.[4][6]

Gyrfa[golygu | golygu cod]

Yn 2012, curodd Bea wyth comedïwr arall i ennill gwobr So You Think You're Funny Gilded Balloon yng Ngŵyl Ffrinj Caeredin 2012. Hi yw dim ond yr ail ferch i ennill y wobr ers y sefydlwyd 25 mlynedd yn ôl.[7] Yn 2013, enwebwyd Bea ar gyfer gwobr y Gomedïwraig Newydd Orau yng Ngwobrau Comedi Caeredin Foster's ar gyfer ei sioe C'est La Bea.[8]

Mae wedi gwneud nifer o ymddangosiadau gwadd ar raglenni panel comedi, gan gynnwys 8 Out of 10 Cats, Never Mind the Buzzcocks, Celebrity Squares, Would I Lie to You?, QI, A League of Their Own, Duck Quacks Don't Echo, Room 101, Insert Name Here, The Big Fat Quiz of Everything a The Jonathan Ross Show. Mae hefyd wedi ymddangos yn perfformio comedi ar ei sefyll ar Russell Howard's Good News Extra, Channel 4's Comedy Gala a Live at the Apollo.

Bywyd personol[golygu | golygu cod]

Daw enw proffesiynol Bea o'i thad a fu farw pan yr oedd yn blentyn.[1] Canfu tra'n astudio yn yr ysgol ddrama bod actores arall o'r un enw yn gweithio yn y diwydiant, felly penderfynodd ar yr enw Aisling Bea.[5]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. 1.0 1.1 1.2 Fitzpatrick, Richard (18 July 2014). "Funny woman, Aisling Bea, is of good stock". Irish Examiner. Cyrchwyd 18 August 2015.
  2. "Aisling Bea on Instagram: "Wow. I feel like a turd."". 16 March 2016. Cyrchwyd 6 August 2016.
  3. "Five Essentials: Actor". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2012-07-13. Cyrchwyd 27 July 2012.
  4. 4.0 4.1 "Aisling Bea Official Site". AislingBea.com. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2014-01-16. Cyrchwyd 15 January 2014.
  5. 5.0 5.1 Jones, Alice (12 August 2015). "Aisling Bea interview: The prize-winning comedian with the CV of a veteran on bringing her second stand-up show to the Fringe". The Independent. Cyrchwyd 18 August 2015.
  6. Jarlath Regan (19 Medi 2015). "Aisling Bea". An Irishman Abroad (Podleiad) (arg. 105). SoundCloud. Cyrchwyd 2015-09-22.
  7. "Aisling Bea wins So You Think You're Funny". BBC News. 24 August 2012. Cyrchwyd 24 August 2012.
  8. Duffy, Claire. "Aisling Bea is nominated for Edinburgh Fringe Best Newcomer Award". Entertainment.ie. Cyrchwyd 15 January 2014.