Afon syth

Oddi ar Wicipedia
Afon syth
Mathafon Edit this on Wikidata

Yn ôl y rhaniad traddodiadol rhwng y mathau o batrymau afon, diffinnir afon syth fel afon sianel sengl sydd â chymhareb ddolennedd o lai na 1.1. Diffinnir cymhareb ddolennedd (sinuosity ratio) wrth fesur hyd y sianel a’i rannu gyda hyd y llwybr syth ar hyd y dyffryn. Er bod nifer o enghreifftiau o afonydd sydd wedi cael eu sythu o ganlyniad i sianeleiddio, prin iawn yw’r enghreifftiau o sianeli syth naturiol. Hyd yn oed lle gwelir enghreifftiau o afonydd syth naturiol (e.e. ar Afon Tywi rhwng Llangadog a Llandeilo), yn aml bydd amrywiaethau sylweddol yn bodoli mewn patrymau llif ac uchder gwely’r afon. Mae sianeli syth yn tueddu i fod yn gymharol sefydlog, ac mae cyfraddau mudo yn cael eu cyfyngu gan gyfuniad o ddiffyg egni sydd ar gael a chryfder uchder y glannau. Mae hyn yn arbennig o wir lle mae’r glannau wedi cael eu ffurfio o ddeunydd sydd â gallu uwch i wrthsefyll erydiad (e.e. silt a chlai cydlynol).

Llyfryddiaeth[golygu | golygu cod]

  • Charlton, R. (2009) Fundamentals of fluvial geomorphology, Routledge, Abingdon, 223 tt.
  • Knighton, D. (1998) Fluvial forms and processes: a new perspective, Arnold, Llundain, 376 tt.
Mae'r erthygl hon yn cynnwys testun o'r cofnod Afon Syth ar yr Esboniadur, adnodd addysgiadol agored gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol. Mae gan y cofnod penodol hwnnw'r drwydded agored CC BY-SA 4.0; gweler testun y drwydded am delerau ail-ddefnyddio'r gwaith.