Afon Vyatka

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Afon Vyatka ger Kirov.

Afon yn Rwsia yw Afon Vyatka (Rwseg: Вя́тка; Tatareg Cyrilig: Нократ, Tatareg Lladin: Noqrat; Marieg: Виче, Viče, Wdmwrteg: Ватка, Vatka) sy'n llifo trwy Oblast Kirov a Gweriniaeth Tatarstan ac sy'n un o lednentydd Afon Kama sydd yn ei thro yn lednant i Afon Volga. Ei hyd yw 1,314 km. Arwynebedd ei basn yw 129,000 km².

Tardda'r afon ar dir Gweriniaeth Udmurt. Am 700 km o'i haber hyd at ddinas Kirov, mae cychod yn medru hwylio ar yr afon. Yn ogystal â Kirov, mae ei phorthladdoedd yn cynnwys Kotelnich, Sovetsk, a Vyatskiye Polyany.

Map o Afon Vyatka.
Flag Russia template.svg Eginyn erthygl sydd uchod am Rwsia. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.